Mae’r weithwraig hynaf yng ngwledydd Prydain wedi marw’n 102 oed yn Sir Benfro ar ôl salwch byr.

Roedd Connie Brown wedi gweithio chwe diwrnod yr wythnos am fwy nag 80 mlynedd yn y siop chips ym Mhenfro yr oedd hi wedi ei hagor gyda’i diweddar ŵr, Sydney.

Roedd pobol leol yn ei galw’n The Codmother, ac fe gafodd hi MBE yn 2006 am ei gwasanaeth i’r gymuned.

Dim ond un geiniog a hanner oedd cost ‘cod an’ chips’  pan agorodd y siop yn 1928 ond erbyn hyn mae penfras a sglodion costio tua £3.

Dywedodd aelodau o’r teulu heddiw ei bod hi wedi gorfod mynd i’r ysbyty ddydd Mercher ac wedi marw’r diwrnod wedyn. Roedd y siop chips ynghau heddiw.

“Mae pobol wedi bod yn garedig iawn ac rydyn ni eisoes wedi derbyn sawl cerdyn,” meddai ei wyres, Sandra Bryant, 42 oed.

“Fe aeth hi i mewn i’r ysbyty yn ei horiau olaf a dyna’r tro cyntaf iddi gael ei derbyn i ysbyty yn ei bywyd.”