Fe wnaeth un o sêr Torchwood ymweld â Hosbis Plant Tŷ Hafan yn y Sili ym Mro Morgannwg heddiw wrth iddyn nhw ddathlu pen-blwydd deng mlynedd.

Fel rhan o’i ymweliad fe wnaeth John Barrowman, sy’n actio Capten Jack Harkness yn y gyfres boblogaidd, osod capsiwlau amser yno ar gyfer y dyfodol.

Bydd y ddau gapsiwl amser yn cael eu hagor mewn 15 mlynedd a 40 mlynedd, i gyd-fynd â phenblwyddi 25 a 50 oed yr hosbis.

Fe symudodd yr actor i fyw yn Sili gyda’i bartner Scott tair blynedd yn ôl. Daeth ar draws Tŷ Hafan wrth fynd am dro un dydd, meddai, a penderfynodd gasglu arian i’r hosbis.

Ers hynny, mae wedi casglu £9,000 o bunnoedd i’r hosbis ac fe wnaeth o addo codi mwy o arian ar eu cyfer nhw heddiw.

“Balch ofnadwy”

“Rydw i’n falch ofnadwy o gael dweud fy mod i’n byw yng Nghymru gan fod y bobl mor hael,” meddai John Barrowman heddiw.

“Rydyn ni wedi prynu tŷ yn y Sili ac wrth ein boddau, ac yn gobeithio cael bod yma yng Nghymru am amser hir.

“O dde Cymru mae teulu fy mhartner yn dod. Roedd ganddyn nhw dir ym Mhenrhyn Gwyr ers talwm,” meddai.

“Mae’r wybodaeth yn y capsiwlau amser cynnwys ein gwasanaethau gofal a gweithgareddau codi arian,” meddai cadeirydd ymddiriedolwyr Tŷ Hafan, Robert Lewis.

Mae’r hosbis wedi gofalu am bron i 400 o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ar draws Gymru ers agor deg mlynedd yn ôl.