Mae dau berson wedi’u cymryd i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad car yn Owrtyn ger Wrecsam brynhawn heddiw.
Roedd dau gerbyd, Renault Clio a Fiat Punto, yn rhan o’r gwrthdrawiad ar gyffordd yr A528 a B5130.
Fe wnaeth yr Heddlu dderbyn galwad gan y gwasanaeth ambiwlans yn eu hysbysu am y digwyddiad tua 12.30pm.
Yn fuan wedi’r gwrthdrawiad, fe gafodd dau berson oedrannus eu cymryd i’r ysbyty gyda man anafiadau.