Mae AC Torïaidd wedi beirniadu pobl sy’n dweud bod Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn araf droi yn faestrefi i ddinasoedd Lloegr.

Cyhuddodd y rhai sy’n “casglu deisebau” yn erbyn datblygu cysylltiadau rhwng gogledd ddwyrain Cymru a Lloegr o fod eisiau codi “wal lechen” rhwng y ddwy wlad.

“Mae’r rhai sy’n codi bwganod ynglŷn â throi Wrecsam, Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn faestrefi i Swydd Caer yn cael effaith hynod niweidiol ar bobl sy’n byw ar y naill ochr a’r llall i’r ffin,” meddai Mark Isherwood, AC rhanbarthol tros Ogledd Cymru.

“Mae Gogledd Cymru wedi cael acsis economaidd-gymdeithasol sy’n ymestyn o Iwerddon, drwy ogledd Cymru ac i ogledd-ddwyrain Lloegr, ers canrifoedd,” meddai.

‘Cysylltiad clos’

Dywedodd bod Llywodraeth y Cynulliad eu hunain yn cyfaddef bod “cysylltiad clos” rhwng “ffyniant gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-ddwyrain Lloegr”.

“Mae pobol wedi bod yn ymfudo dros y ffin o Loegr i Gymru ers blynyddoedd lawer.”

Dywedodd ei fod yn poeni bod deisebau’n cael eu casglu a hynny ar sail “straeon ffug gan bobol a ddylai wybod yn well”.

“Dyma’r union fath o nonsens sy’n rhoi enw drwg i wleidyddiaeth,” meddai. “Mae pob cenedl lwyddiannus yn cydweithio’n gyda’u chymdogion.”