Mae’r Gleision wedi enwi’r garfan a faeddodd Sale yr wythnos ddiwethaf er mwyn herio’r Harlequins ar y Stoop ddydd Sul.

Fydd buddugoliaeth yn erbyn Harlequins dros y penwythnos ddim yn ddigon i’r Gleision ennill eu lle yn rownd wyth olaf y Cwpan Heineken.

Gyda Toulouse eisoes wedi ennill y grŵp, fe fydd rhaid i’r Gleision ddibynnu ar ganlyniadau eraill er mwyn cyrraedd rownd yr wyth olaf.

Newyddion y tîm

Mae Ceri Sweeney a Richie Rees yn cadw eu lle’n haneri, gyda Gareth Cooper a Sam Norton-Knight ar y fainc.

Mae’r ddau Gymro ifanc, Leigh Halfpenny a Tom James ar yr esgyll, a Jamie Roberts yn y canol gyda Casey Laulala. Mae Ben Blair yn cadw ei le yn safle’r cefnwr.

Ymysg y blaenwyr, y prop Gethin Jenkins yw’r capten unwaith eto gyda Gareth Williams a Faao Filise yn cwblhau’r rheng flaen.

Mae Bradley Davies a Deiniol Jones yn cadw eu lle yn yr ail reng gyda Paul Tito yn aros ar y fainc.

Yn y rheng ôl mae chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Martyn Williams ac Andy Powell yn ogystal â Xavier Rush.

Carfan y Gleision

15 Ben Blair 14 Leigh Halfpenny 13 Casey Laulala 12 Jamie Roberts 11 Tom James 10 Ceri Sweeney 9 Richie Rees

1 Gethin Jenkins (c) 2 Gareth Williams 3 Faao Filise 4 Bradley Davies 5 Deiniol Jones 6 Andy Powell 7 Martyn Williams 8 Xavier Rush

Eilyddion- 16 T Rhys Thomas 17 Sam Hobbs 18 Gary Powell 19 Paul Tito 20 Ben White 21 Gareth Cooper 22 Sam Norton-Knight 23 Tom Shanklin