Mae Shane Williams a James Hook wedi cael eu henwi yn nhîm y Gweilch i wynebu Caerlŷr yn y Cwpan Heineken yfory.
Roedd y ddau Lew ar y fainc ar gyfer y rhanbarth yn y golled i Clermont Auvergne y penwythnos diwethaf.
Mae cyfarwyddwr rygbi’r Gweilch, Scott Johnson, wedi enwi carfan gref ar gyfer y gêm allweddol yn erbyn clwb Uwch Gynghrair Lloegr.
Mae Lee Byrne yn dechrau yn safle’r cefnwr, gyda’r Gwyddel Tommy Bowe a Williams ar yr esgyll.
Mae James Hook yn cymryd ei le yn y canol wrth ochr Andrew Bishop, gyda Dan Biggar a Ricky Januarie yn safle’r haneri.
Blaenwyr
Mae Paul James ac Adam Jones yn bropiau gyda Richard Hibbard yn fachwr.
Yn yr ail reng mae chwaraewyr rhyngwladol Cymru, Alun-Wyn Jones a Jonathan Thomas.
Mae gan y Gweilch reng ôl llawn profiad hefyd gyda gwŷr o Seland Newydd, Jerry Collins a Marty Holah yn flaenasgellwyr a chapten Cymru, Ryan Jones yn wythwr.
‘Gêm gyffrous’
Mae capten y rhanbarth, Ryan Jones yn disgwyl gêm gyffrous rhwng dau dîm sy’n ymladd am yr un wobr – lle yn rownd yr wyth olaf y Cwpan Heineken.
“Rydyn ni’n ymwybodol beth sydd angen ei wneud, sef canolbwyntio ar ein hunain, a sicrhau ein bod ni’n cael gwared ag unrhyw fan gamgymeriadau”, meddai Jones.
“Mae’n rhaid i ni gadw ffydd yn ein gallu a’n ffordd o chwarae.
“Mae rywfaint o gystadleuaeth wedi datblygu rhyngom ni a Chaerlŷr dros y blynyddoedd diwethaf, gyda gemau agos iawn yn y gorffennol.
“Ond does dim angen meddwl gormod am y gorffennol – y canlyniad fory sy’n bwysig”, ychwanegodd.
Carfan y Gweilch
15 Lee Byrne 14 Tommy Bowe 13 Andrew Bishop 12 James Hook 11 Shane Williams 10 Dan Biggar 9 Ricky Januarie.
1 Paul James 2 Richard Hibbard 3 Adam Jones 4 Alun-Wyn Jones 5 Jonathan Thomas 6 Jerry Collins 7 Marty Holah 8 Ryan Jones.
Eilyddion- 16 Huw Bennett 17 Ryan Bevington 18 Cai Griffiths 19 Ian Gough 20 Filo Tiatia 21 Jamie Nutbrown 22 Sonny Parker 23 Nikki Walker.