Mae Heddlu Gwent yn ail-apelio am wybodaeth am Graham Dean, wnaeth ddiflannu o garchar agored tair mlynedd yn ôl.
Methodd a dychwelyd i garchar Prescoed, ddydd Gwener, 16 Mehefin, 2006.
Cafwyd Graham Dean, 63, yn euog o lofruddiaeth yn Llys y Goron Casnewydd, ar Dachwedd 1981. Fe gafodd ddedfryd oes yn y carchar am ei drosedd.
Nid yw’n droseddwr rhyw cofrestredig. Mae’r Heddlu’n credu fod ganddo gysylltiadau yn ardal Caerdydd, Bryste a Dorset.
Mae Graham Dean yn ddyn tenau, pum troedfedd naw modfedd o daldra gyda gwallt sy’n britho.
Mae’r Heddlu’n dweud ei fod yn beryg i’r cyhoedd ac maen nhw’n argymell na ddylai pobl fynd yn agos ato, a galw Heddlu Gwent ar 01633 838111.