Mae dyn wedi ei gael yn euog o lofruddiaeth ar ôl iddo dagu ei gyn gariad 21 oed ac yna gyrru ei chorff hi at swyddfa’r heddlu.
Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Phillip Packer, 50 oed, wedi llofruddio Jenna Thomas, ar ôl methu ag ail danio’r berthynas.
Roedd Philip Packer wedi cerdded i mewn i orsaf heddlu Porthcawl fis Mehefin diwethaf ac wedi dweud wrth swyddog bod ei gar wedi parcio tu allan gyda chorff ynddo.
Y cefndir
Fe ddaeth yr heddlu o hyd i gorff Jenna Thomas wedi ei orchuddio gan liain glas yn sedd teithiwr Volkswagen Bora’r diffynnydd tua 1.15pm ar 24 Mehefin.
Dywedodd Philip Packer wrth yr heddlu eu bod nhw wedi bod yn dadlau drwy’r dydd a’i fod yntau wedi ei thagu hi mewn llecyn aros ger Pen y Bont ar Ogwr.
“Ydi hi wedi marw? Doeddwn i ddim yn golygu ei lladd hi,” meddai.
Chwalu
Achos yr erlyniad oedd bod Philip Packer wedi tagu’r wraig ifanc yn fwriadol am ei bod hi’n gwrthod ail ddechrau’r berthynas ac eisiau parhau gyda’i bywyd hebddo.
Clywodd y llys bod y par wedi mynd i fyw gyda’i gilydd ar ôl dechrau perthynas yn 2007 pan oedd Jenna Thomas yn 19 oed a’r diffynnydd yn 47. Fe aeth hi yn ôl adref fis Mai diwethaf ar ôl iddyn nhw wahanu.
Clywodd y llys bod Phillip Packer yn teimlo’n isel, ac wedi dweud wrth bobol ei fod wedi cymryd gorddos o baracetamol.
Dywedodd yr erlyniad ei fod o wedi “cynhyrfu” pan ddechreuodd hi berthynas gyda dynes yn oedd yn nes at ei hoed hi.
Y dyfarniad
Fe fu Philip Packer yn eistedd gyda’i ben i lawr drwy’r bore wrth i’r barnwr grynhoi’r dystiolaeth. Roedd y barnwr wedi dweud wrth y rheithgor y gallen nhw roi un o ddwy ddedfryd – bod Phillip Packer yn euog o lofruddiaeth neu ddynladdiad.
“Mae’n rhaid i chi gael eich tywys gan synnwyr cyffredin a rheswm,” meddai Mr Ustus Griffith Williams.
Fe fydd Philip Packer yn cael ei ddedfrydu dydd Llun.
Llun: Llys y Goron, Caerdydd