Mae’r athletwr Joe Thomas wedi cael ei ddewis i redeg yr 800m dros Brydain yng nghystadleuaeth Ryngwladol AVIVA yng Nglasgow ar ddiwedd y mis.

Cafodd y Cymro ei ddewis yn aelod o dîm Prydeinig cryf iawn sy’n cynnwys sêr megis Jessica Ennis, Chris Tomlinson a Lisa Dobriskey.

Ond fe fydd Thomas yn wynebu cystadleuaeth anodd iawn gan wledydd fel yr Unol Daleithiau, Sweden, yr Almaen a thîm arbennig fydd yn cynrychioli’r Gymanwlad.

Cynrychiolodd Joe Thomas Prydain yn yr un digwyddiad y llynedd.

Perfformiodd yn dda iawn bryd hynny gan dorri record amser gora’i yrfa, a’r trydydd cyflymaf erioed gan Gymro dros 800m. Ond collodd weddill y tymor i salwch.

Gyda Gemau’r Gymanwlad yn cael ei gynnal yn India ym mis Hydref eleni, fe fydd y rhedwr o Bontypridd yn awyddus i sicrhau dechrau da i’r tymor.