Mae’r Crusaders wedi arwyddo eu hail chwaraewr rhyngwladol Prydeinig, wrth i’r asgellwr Gareth Raynor ymuno o Hull FC.
Dyma’r trydydd chwaraewr o Hull FC i ymuno gyda’r clwb Cymreig ers i’r hyfforddwr Brian Noble gymryd yr awenau.
Cychwynnodd Raynor ei yrfa yn chwarae rygbi’r undeb gyda Pontefract, Castleford a Leeds Tykes.
Wrth chwarae i Leeds Tykes denodd sylw tîm rygbi’r gynghrair y ddinas, sef Leeds Rhinos. Ond ar ôl iddo arwydd gyda’r Rhinos, ni chafodd llawer o gemau i’r clwb ac fe symudodd at Hull FC.
Roedd yn llwyddiant mawr yno gan sgorio 101 o geisiai mewn 189 o ymddangosiadau i’r clwb.
Chwaraeodd i Loegr am y tro cyntaf yn erbyn Rwsia yn 2004. Sgoriodd tri chais yn y gêm a dilynodd hynny gyda chais arall yn erbyn Ffrainc.
Fe aeth yn ei flaen i chwarae i Brydain Fawr flwyddyn yn ddiweddarach o dan arweiniad Brian Noble. Sgoriodd dri chais mewn chwe ymddangosiad dros Brydain.
“Mae’r garfan yn dod ymlaen yn dda nawr. Mae Gareth eisoes wedi ymgartrefu yn y garfan,” meddai hyfforddwr tîm cyntaf y Crusaders, Jon Sharp.
“Mae gennym ni garfan dda ac mae paratoadau’n mynd yn iawn ar gyfer gêm gynta’r tymor yn erbyn y Leeds Rhinos.”