Mae cryn ddadlau ynglŷn â ble y dylai casgliad Oes Haearn Llyn Cerrig Bach, sy’n cael ei gadw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, gael ei arddangos.

Y casgliad yw’r mwyaf o’r fath yng Nghymru – 150 crair o’r oes haearn gafodd eu darganfod mewn mawnog yn y 40au.

Ers hynny maen nhw wedi eu cadw yng Nghaerdydd ond mae cynghorydd o Fôn eisiau eu gweld nhw’n dod yn ôl i’r ynys, er mwyn denu twristiaid yn y dyfodol.

Cred Philip Massie Fowlie, Cynghorydd Annibynnol dros Ardal Rhosneig, yw mai “trysor Sir Fôn ydi o ac felly fe ddylai gael ei arddangos yma”.

Mae’r cynghorydd yn credu y dylai rhannau o’r casgliad ddod “adref i Sir Fôn” er ei fod yn cyfaddef bod dod a’r casgliad cyfan yn ôl i’r Ynys yn “rhy uchelgeisiol”.

“Dw i’n 49 a dw i heb fod i Sain Ffagan – faint o bobl sydd fel fi? ‘Dw i’n cynrychioli’r bobl gyffredin,” meddai gan ychwanegu fod trefniadau diogelwch Oriel Ynys Môn yn “ddigon da” i gadw’r casgliad yno.

“Rhywbeth yn perthyn i Sir Fôn ydi’r Trysor – o safbwynt twristiaeth a chadwraeth – gallai ddod a mwy o bobl i’r ynys,” meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn eu bod nhw hefyd yn gefnogol i’r syniad o ddod a rhywfaint o’r casgliad gartref.

“Dymuniad y Cyngor yw gweithio yn bositif a chadarnhaol gyda’r Amgueddfa Genedlaethol er mwyn sicrhau fod casgliadau yn gallu cael eu harddangos o bryd i’w gilydd yn amgueddfa Oriel Ynys Môn.”

Hanes “hysh hysh”

Mae Eflyn Owen, merch William Owen Roberts, y tirmon ddaeth o hyd i’r trysorau, yn “hapus” i weld darnau o’r casgliad yn cael ei gylchdroi rhwng Môn a Chaerdydd.

Ond pwysleisiodd ei bod yn “cefnogi Amgueddfa Cymru ac Oriel Môn,” a’u penderfyniad nhw ydi pa ddarnau i’w dangos ymhle, meddai.

Eisoes, mae Eflyn Owen, sydd o Lanfaelog, wedi rhoi 3 arteffact o eiddo ei theulu ar “fenthyg am oes i’r oriel”. Mae’r holl ddarnau gwreiddiol eraill yng Nghaerdydd.

“Pe na fyddai fy nhad wedi gwneud y penderfyniad i garthu’r mawn o waelod y tir corslyd yna yn 1942, mi fasa’r creiriau’n dal i orwedd yno,” meddai.

“Roedd popeth yn ‘hysh hysh’ am ei bod hi adeg yr ail ryfel byd pan gafodd y trysorau ei darganfod i ddechrau,” meddai Eflyn Owen cyn dweud eu bod nhw’n bethau “byd-enwog” bellach.

“Ar ôl darganfod yr arteffactau, dw i’n cofio dad yn eu lapio nhw mewn sach liain a’u rhoi ar gefn ei feic.

“Yna, dod adra a’u lapio mewn papur newydd cyn gosod y darnau mewn bocs pren, hoelio’r caead a’u gyrru i Gaerdydd. Fe dderbyniodd postal order o swllt am gost y postio wedyn yn ogystal â nodyn i ddweud diolch” meddai.

Erbyn mae Eflyn Owen wrthi’n casglu arian er mwyn creu atgynyrchiadau cain o chwech o’r prif ddarnau.

Ei bwriad yw defnyddio’r atgynyrchiadau hyn mewn cyflwyniadau ar hanes Llyn Cerrig Bach yn ysgolion a chymdeithasau’r Ynys.

Mae wedi eisoes rhoi’r holl arian am ei sgyrsiau hanesyddol tuag at gronfa’r atgynyrchiadau.

Partneriaeth

Dywedodd llefarydd ar ran Amgueddfa Cymru eu bod nhw’n cydweithio gydag Oriel Ynys Môn i greu adnoddau addysgiadol ar eu cyfer.

Pwysleisiodd yr amgueddfa bod bron i 250,000 o bobl wedi gweld yr arddangosfa Gwreiddiau: Canfod y Gymru gynnar yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

“Dros y blynyddoedd nesaf, mae staff Oriel Ynys Môn hefyd yn bwriadu gweithio mewn partneriaeth gydag Amgueddfa Cymru i greu arddangosfa dros dro a fydd yn cynnwys rhai o’r prif wrthrychau gwreiddiol o Lyn Cerrig Bach,” meddai’r amgueddfa.

Fe ddywedodd y llefarydd hefyd fod Amgueddfa Cymru’n “benthyg elfennau o’r casgliadau cenedlaethol i amgueddfeydd ac orielau ledled Cymru’n rheolaidd”.

(Llun: Yr Amgueddfa Genedlaethol)