Er mai “ychydig iawn sydd wedi newid yn Gaza ers y rhyfel” mae Cymru wedi gwneud “gwahaniaeth go iawn” yn un o ardaloedd tlotaf y Ddinas, meddai’r gwleidydd, Jill Evans.

Roedd Aelod Senedd Ewropeaidd Plaid Cymru yn ail-ymweld â Gaza yr wythnos diwethaf, ar ôl bod yno y llynedd yn rhan o grŵp swyddogol y Senedd i weld y dinistr a achoswyd gan ymosodiad Israel.

“Dw i erioed wedi bod mor falch o weld y Ddraig Goch,” meddai Jill Evans ar ôl ymweld â chlinig deintydd symudol sy’n cael ei ariannu gan yr Eglwys yng Nghymru a chlinic iechyd sy’n darparu gofal i famau phlant.

‘Adfeilion’ y rhyfel yn dal i fod yno

Roedd Jill Evans yn llai cadarnhaol wrth drafod y sefyllfa mewn sawl rhan o Gaza. Doedd dim lot wedi newid ers y rhyfel, meddai.

“Mae tai, ffatrïoedd ac ysgolion yn dal yn adfeilion. Mewn unrhyw wlad arall, byddai’r gwaith ail-adeiladu wedi hen ddechrau erbyn hyn.

“Ond mae’r sefyllfa yn wahanol yn Gaza. Mae Israel wedi cau ffiniau Gaza, ar y tir, y môr ac yn yr awyr.

“Mae dros hanner y boblogaeth o dan ddeunaw oed. Maen nhw wedi gweld pethau na ddylai unrhyw blentyn orfod eu gweld.

“Mae’n anodd dychmygu byw ynghanol y fath dlodi ac ofn. Mae’r arswyd i’w weld yn glir ar eu hwynebau.

“Ond mae eu hwynebau hefyd yn dangos bod gobaith yno am ddyfodol gwell,” meddai Jill Evans.

Dim digon o ysgolion

Yn groes i Gymru sy’n dioddef prinder disgyblion, “yn Gaza mae’n rhaid i’r plant ddisgwyl eu tro er mwyn mynd i’r ysgol am nad oes yna ddigon”.

“Er mwyn cael lle i bob plentyn, mae angen adeiladu 100 ysgol newydd. Cafodd deunaw o ysgolion eu dinistrio gan Israel yn yr ymosodiad flwyddyn ddiwethaf,” meddai.

“Pan wnes i gyfarfod â phennaeth y Cenhedloedd Unedig yn Gaza, fe ddywedoedd e ei fod yn poeni y bydd pobol Gaza yn colli gobaith rhyw ddiwrnod,” meddai.

Mae 80% o bobol Gaza yn ddi-waith, miliwn o bobl wedi colli eu cartref a dau draean o’r bobol ifanc erioed wedi gadael Gaza, meddai.

“Bydda’ i’n parhau i ymgyrchu i ddod â gwarchae Gaza i ben. I mi, dyna yw’r peth moesol i’w wneud,” meddai Jill Evans.

Datrys problem

Mae Jill Evans yn gobeithio y bydd ei hymweliad yn helpu i ddatrys anhawster y mae gweithwyr dyngarol o Gymru wedi ei gael.

Roedd tair dynes o Abertawe wedi ceisio mynd a chymorth meddygol i bobol yn Gaza bythefnos yn ôl, ond roedden nhw wedi’u halltudio gan yr Aifft am fynd i’r man croesi anghywir, meddai Jill Evans.

“Cefais air gyda chadeirydd Pwyllgor Materion Tramor Senedd yr Aifft am hyn. Roedd yn ymwybodol o’r sefyllfa, ac rydw i am gysylltu yn swyddogol i drafod ymhellach,” meddai.