Mae Caerdydd wedi gwrthod cynnig gan eu gelynion pennaf, Abertawe, i brynu eu hymosodwr, Jay Bothroyd.

Mae cadeirydd yr Elyrch, Huw Jenkins, wedi datgelu eu bod nhw wedi holi rheolwr Caerdydd, Dave Jones, ynglŷn â’r posibilrwydd o arwyddo’r blaenwr.

Ond roedd pris Caerdydd am yr ymosodwr yn llawer rhy uchel i Abertawe allu ystyried ei brynu. Fe fyddai angen cynnig o tua £3m cyn y byddai’r Adar Glas yn ystyried gwerthu’r chwaraewr allweddol.

“Mae pris Caerdydd am Jay filltiroedd o’r hyn yr ydyn ni’n ystyried ei dalu,” meddai Huw Jenkins ac mae cadeirydd Caerdydd, Peter Ridsdale eisoes wedi dweud nad oes unrhyw siawns y bydd Jay Bothroyd yn cael ei werthu i Abertawe.

‘Amhoblogaidd’

Mae Bothroyd yn ffigwr amhoblogaidd iawn yn Stadiwm Liberty, ac nid yn unig am ei fod yn chwaraewr Caerdydd.

Roedd cyn ymosodwr Arsenal wedi gwawdio Abertawe ynglŷn â’u cyfle i ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair y tymor hwn cyn y gêm ddarbi yn ôl ym mis Tachwedd.

Er gwaethaf hyn, mae Huw Jenkins yn credu y byddai amser Bothroyd yn y brifddinas yn cael ei anghofio pe bai’n cael cyfle i ddangos ei ddoniau yng nghrys gwyn yr Elyrch.