Bydd y Llewod Stephen Jones a Matthew Rees yn dychwelyd i garfan y Scarlets i wynebu Brive yn y Cwpan Heineken yfory.

Fe fydd maswr Cymru yn dechrau’r gêm ar ôl gwella o anaf i’w ysgwydd, gyda Rees ar y fainc.

Mae’r prop rhyngwladol Rhys Thomas hefyd yn dechrau ar y fainc i’r Scarlets ar ôl anaf.

“Mae’n wych gweld y chwaraewyr profiadol yma yn ôl yn y garfan – mae profiad yn y garfan yn holl bwysig yn y gêmau mawr yma’n Ewrop,” meddai prif hyfforddwr y rhanbarth, Nigel Davies.

“Wedi dweud hynny, mae’r chwaraewyr ifanc wedi gwneud yn eithriadol o dda ac wedi elwa’n fawr o’r fuddugoliaeth prynhawn Sul. Maen nhw’n ymwybodol erbyn hyn eu bod nhw’n gallu chwarae yn y gêmau mawr yma a sicrhau buddugoliaeth.”

Targedu buddugoliaeth

Mae angen i’r Scarlets guro’r Ffrancwyr gyda phwyntiau bonws i sicrhau’r ail safle yn y grŵp a’r cyfle i ennill eu lle yn rownd yr wyth olaf. Ond fe fydd angen i Wyddelod Llundain golli yn erbyn Leinster hefyd.

“Mae yna gymaint o ffyrdd y gallen ni fynd ymlaen i’r rownd nesa,” meddai Nigel Davies. “Mae’n rhaid i ni ganolbwyntio ar yr hyn ydyn ni’n gallu ei reoli, sef sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Brive ddydd Sadwrn”

“Roeddwn i’n hynod o falch gyda’r canlyniad penwythnos diwetha’ a’r ffordd y chwaraeodd y bois ifanc. Roedd yn ganlyniad gwych iddynt ac mae wedi gwella ein safle yn y grŵp.

“Mae hon yn gêm fawr i ni yn erbyn Brive, rydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ac yn cadw’n bositif iawn yr wythnos yma. Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau’r fuddugoliaeth.”

Carfan y Scarlets

15 Daniel Evans, 14 Morgan Stoddart, 13 Sean Lamont, 12 Jonathan Davies, 11 Andy Fenby, 10 Stephen Jones, 9 Martin Roberts.

1 Iestyn Thomas, 2 Ken Owens, 3 Deacon Manu, 4 Damian Welch, 5 Dominic Day, 6 Rob McCusker, 7 Josh Turnbull, 8 David Lyons.

Eilyddion: 16 Matthew Rees, 17 Phil John, 18 Rhys Thomas, 19 Lou Reed, 20 Johnathan Edwards, 21 Lee Williams, 22 Rhys Priestland 23 Gareth Maule.