Mae yna gynnwrf yn y garfan wrth iddynt baratoi i wynebu’r Leicester Tigers yn y Cwpanan Heineken yfory, yn ôl cyfarwyddwr rygbi’r Gweilch, Scott Johnson.

“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at y gêm, does dim gêmau mwy i’w cael,” meddai.

Fe fydd canlyniad y gêm yn y Stadiwm Liberty yn penderfynu pwy fydd yn ennill eu lle yn rownd yr wyth olaf.

Dyw’r Gweilch ddim wedi colli yn eu 12 gêm ddiwetha’ gartre’ yn Ewrop. Ond y tîm diwethaf i’w curo nhw yn Abertawe yn y Cwpan Heineken oedd Caerlŷr, yn 2005.

Tasg fawr

Mae Johnson yn cydnabod bod gan y rhanbarth dasg fawr i sicrhau eu lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth.

“Mae’n gêm ac achlysur enfawr yn erbyn un o gewri rygbi Ewrop,” meddai cyfarwyddwr rygbi’r Gweilch.

“Rydyn ni’n sylweddoli beth sydd angen i ni ei gyflawni ddydd Sadwrn. Rhaid i ni ennill a dim byd llai ‘na hynny.

“Os byddwn yn ennill fe fyddwn  ni trwodd; os byddwn ni’n colli, fe fyddwn ni mas. Mae’n union yr un sefyllfa i Gaerlŷr.”