Bydd prop y Dreigiau, Ben Castle, yn dychwelyd i garfan y rhanbarth am y tro cyntaf y tymor hwn er mwyn wynebu Caerloyw yn y Cwpan Heineken ddydd Sul.
Dyma fydd gêm gyntaf Castle ers iddo rwygo cyhyr yn ei fraich mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Caerwrangon yn yr haf.
Mae’r mewnwr, Wayne Evans, a’r canolwr, Ashley Smith, hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl anafiadau.
Fe fydd clo Cymru, Luke Charteris ar gael i chwarae ar ôl iddo wella o anaf i’w ysgwydd yn erbyn Glasgow y penwythnos diwethaf.
“Rwy’n hapus iawn bod Ashley, Wayne a Ben yn dychwelyd y penwythnos yma,” meddai hyfforddwr y Dreigiau, Paul Turner.
“Rwy’n falch iawn o weld Ben yn ôl yn y tîm – mae wedi bod yn amser rhwystredig iawn iddo.”
Carfan y Dreigiau
Cefnwyr- Jason Tovey, Martyn Thomas Aled Brew, Rhodri Gomer Davies, Ashley Smith, Tom Riley, Richard Fussell, Matthew Watkins, James Arlidge, James Leadbeater, Wayne Evans.
Blaenwyr- Hugh Gustafson, Ben Castle, Ali McKenzie, Tom Willis, Steve Jones, Gethin Robinson, Rob Sidoli, Luke Charteris, Hoani MacDonald, Adam Jones, Danny Lydiate, Lewis Evans, Gavin Thomas, James Harris