Bydd arweinydd y Ceidwadwyr David Cameron yn rhybuddio heddiw bod gwledydd Prydain mewn “dirwasgiad cymdeithasol” dyfnach na’r dirwasgiad ariannol.
Bydd arweinydd y Torïaid yn dweud bod cymdeithas Prydain yn adlewyrchu “methiant moesol” Llafur ac fe fydd yn cyhoeddi cyfres o bolisïau cymdeithasol.
Dywedodd y Ceidwadwyr y bydd yr araith yn profi bod David Cameron yn “gyffyrddus” wrth ymgyrchu ar dir traddodiadol Llafur.
Yr araith
Mae rhai rhannau o’r araith wedi eu gollwng ymlaen llaw …
“Dan reolaeth Llafur rydyn ni wedi dioddef y dirwasgiad dyfnaf a hiraf ers y rhyfel, ond mae’r dirwasgiad cymdeithasol yr ‘yn ni ynddo ar hyn o bryd yn waeth,” meddai.
Fe fydd yn dweud bod Llafur yn “gwobrwyo rhieni am wahanu”, bod “rheini sengl yn ennill llai am weithio mwy” a “pobol ifanc yn dysgu ei bod yn talu i beidio cael gwaith”.
Yn ôl y Daily Telegraph fe allai’r Ceidwadwyr daro gyrwyr, teithwyr awyr a chwmnïau gyda threthi ychwanegol er mwyn gwobrwyo cyplau priod.
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid mai “dyfaliu pur” oedd hynny, ond mae arweinydd y Ceidwadwyr dan bwysau i esbonio o ble y byddai’r arian yn dod.
Roedd canghellor yr wrthblaid, George Osborne, yn gwadu stori’r Telegraph. “Dydyn ni ddim yn cynllunio i godi trethi gyrwyr i dalu am unrhyw beth,” meddai wrth raglen Today ar y BBC.