Mae cwmni biodechnoleg o Gymru wedi creu 25 o swyddi newydd wrth gael cytundeb newydd gyda siopau Boots Alliance.
Mae’r swyddi wedi eu creu yn ardal Baglan, Port Talbot, gan gwmni Cultech sydd bellach yn cyflogi 150 o bobol yno ac ym Maesteg yn cynhyrchu ychwanegion maeth – nutritional supplements.
Y cwmni, a gafodd ei sefydlu yn 1994 gan Sue a Nigel Plummer, sy’n cynhyrchu ychwanegion maeth Dome Cap ar gyfer Boots.
Fe gawson nhw gymorth gan Lywodraeth y Cynulliad i brynu cyfarpar newydd ar gyfer cynhyrchu’r nwyddau.
Y llynedd, roedd y cwmni wedi prynu busnes arall yn yr un maes, Vega Nutritionals, ac wedi symud y gwaith cynhyrchu o Surrey i Baglan.
Mae ei incwm bellach yn £12 miliwn y flwyddyn.
‘Arloesol’
“Mae Cultech yn buddsoddi swm sylweddol o’i incwm ar ymchwil a datblygu,” meddai’r Dirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones.
“Mae hynny’n eu galluogi i ddatblygu nwyddau a phrosesau arloesol iawn, sy’n hanfodol ar gyfer iechyd tymor hir unrhyw fusnes.”
Yn ôl y Llywodraeth, mae 15,000 o weithwyr yn cael eu cyflogi yn y maes biodechnoleg yng Nghymru, a hwnnw’n cyfrannu £1.3 biliwn at yr economi bob blwyddyn.
Llun (o wefan y cwmni)