Mae’r pâr o Loegr sy’n cael eu cadw’n gaeth gan fôr-ladron yn Somalia wedi dweud unwaith eto eu bod mewn peryg o gael eu lladd o fewn dyddiau.

Fe gafodd Paul Chandler, 59, wneud cyfweliad gyda newyddion teledu ITV ac fe ddywedodd bod yr herwgipwyr wedi bygwth eu lladd “o fewn tri neu bedwar diwrnod”.

Nid dyma’r tro cynta’ iddyn nhw wneud bygythiad o’r fath ond mae’r dyn o Tunbridge Wells yn dweud bellach ei fod ef a’i wraig Rachel, 55, wedi cael eu gwahanu a’u bod wedi cael eu curo a’u chwipio.

Roedden nhw wedi cael siarad gyda’i gilydd ar y ffôn tua 12 niwrnod yn ôl, meddai Paul Chandler.

Seychelles

Roedd y ddau wedi cael eu cipio tua diwedd mis Hydref wrth hwylio i fyny arfordir dwyrain Affrica o’r Seychelles.

Mae’r Swyddfa Dramor yn Llundain yn dweud eu bod yn monitro’r sefyllfa ac yn cadw cysylltiad gyda theulu’r ddau ond mae Llywodraeth Prydain yn gwrthod talu arian i ryddhau pobol o ddwylo môr-ladron.

Yn ôl y Llywodraeth, fe fyddai talu pridwerth yn annog rhagor o fôr-ladron i wneud yr un peth.

Arfordir Somalia yw un o’r llefydd perycla’ i longau – yr wythnos hon, fe ddywedodd capten llong a lwyddodd i atal môr-ladron, mai’r unig ateb oedd datrys problemau ariannol a gwleidyddol y wlad.