Mae cyn brîf ymchwilydd arfau’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud heddiw ei fod wedi rhybuddio Tony Blair mis cyn dechrau rhyfel Irac ei bod hi’n bosib nad oedd arfau dinistriol yno.

Dywedodd Hans Blix ei fod yn ddrwgdybus ynglŷn â safon y wybodaeth gudd oedd i fod i brofi bod gan Saddam Hussein arfau dinistriol.

Fe fu ei ymchwilwyr yn ymweld â nifer o’r safleoedd yr oedd yr Unol Daleithiau a Prydain yn honni oedd yn cynnwys yr arfau dinistriol, ond dim ond arfau cyffredin oedd yno, meddai.

“Dw i’n credu mai dyna un o’r pethau mwyaf arwyddocaol am y stori gyfan,” meddai wrth raglen Today y BBC. “Roedd gennym ni’r cyfle i ymweld â thua thri dwsin o’r safleoedd yma a doedd dim arfau dinistriol i’w gweld yn unrhyw le.

“Os mai dyna’r wybodaeth orau, beth am y gweddill? Roedd yna amheuon.”

‘Mwy o amser’

Dywedodd Hans Blix ei fod wedi siarad gyda Tony Blair ym mis Chwefror 2003 a gofyn a oedd yn siŵr bod arfau dinistriol yno.

Roedd Tony Blair “yn siŵr iawn, roedd y gwasanaethau cudd yn siŵr, roedd hyn yn oed yr Eifftiaid yn siŵr, a doedd gen i ddim rheswm dros amau ei sicrwydd ar y pryd. Ond roedd gen i amheuon.”

Dywedodd bod Irac wedi caniatáu iddyn nhw ddechrau chwilio’r wlad ac y dylen nhw fod wedi cael mwy o amser.

“Fe wnaethon ni ddweud wrth Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig ein bod ni mewn gwirionedd yn gwneud lot o gynnydd,” meddai.

Llun: Tony Blair