Mae cynllun newydd yn gobeithio rhoi hwb i dwristiaeth yng Ngogledd Cymru a chynyddu faint sy’n cael ei wario gan dwristiaid yn yr ardal.
Nod strategaeth pum mlynedd Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru yw sicrhau bod £2bn yn cael ei wario gan dwristiaid yno bob blwyddyn.
Gweledigaeth y bartneriaeth ar gyfer Gogledd Cymru yw:
• Un o bum prif gyrchfan twristiaid y Deyrnas Unedig
• Canolfan ragoriaeth ar gyfer chwaraeon antur
• Digon o bethau’n digwydd trwy’r flwyddyn, beth bynnag y tywydd
Yn ôl y strategaeth gallai’r dirwasgiad weithio er lles y diwydiant twristiaeth o fewn gwledydd Prydain, ond fe allai ei gwneud hi’n anoddach denu buddsoddwyr o’r sector breifat.
‘Cyrraedd ei botensial’
Ar hyn o bryd mae’r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru yn cynnal 37,000 o swyddi ac yn cynhyrchu £1.8bn bob blwyddyn, meddai’r Llywodraeth.
Mae Gogledd Cymru yn gyfrifol am draean o dwristiaeth Cymru, gan ddenu 8m o bobol i aros a 17m i ymweld am y dydd.
Datgelwyd y cynllun newydd gan y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones yn Galeri Caernarfon – dywedodd bod ffyniant y diwydiant yn “rhy bwysig i’w adael i siawns”.
“Os ydi o am gyrraedd ei botensial llawn rhaid i bawb sy’n ymwneud â thwristiaeth gytuno ble maen nhw’n mynd a gweithio tuag at yr un agenda,” meddai.
“Mae twristiaeth yn hynod o bwysig i economi Gogledd Cymru. Rydw i’n credu y gallai wneud cyfraniad hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol a pharhau i ffynnu am genedlaethau i ddod.”