Mae Network Rail wedi ymddiheuro’n llawn i deulu gwraig a gafodd ei lladd mewn damwain gydag un o drenau Arriva Wales.

Fe gafodd Jean Harding, 52, o Swydd Henffordd ei lladd ddydd Sadwrn pan aeth drawodd trên yn erbyn dau gar ar groesfan yn y sir.

Roedd ar ei ffordd o Fanceinion i Aberdaugleddau pan ddigwyddodd y ddamwain ym mhentre Moreton-on-Lugg, heb fod ymhell o’r ffin â Chymru.

Fe ddywedodd Network Rail mai newydd ddechrau yr oedd eu hymchwiliad i’r digwyddiad ond eu bod yn derbyn mai nhw “fwy na thebyg” oedd yn gyfrifol am yr hyn ddigwyddodd.

Aethpwyd â gŵr Jean Harding i’r ysbyty hefyd i gael triniaeth am fân anafiadau.

Mae’r Heddlu Trafnidiaeth hefyd yn ymchwilio ac fe fydd ymchwiliad annibynnol.

Fe ymddiheurodd Network Rail hefyd i bobol yn ardal Moreton am y gofid oedd wedi ei achosi.