Bydd bocs heddlu tebyg i Tardis Dr Who yn ne Cymru yn cael grant gadwraeth.
Mae’r bocs heddlu yng Nghasnewydd wedi cael £10,500 gan Lywodraeth y Cynulliad yn dilyn cais gan grŵp cymunedol lleol Rascal.
“Rydyn ni’n hapus iawn i dderbyn yr arian ac fe fydd yn helpu tuag at adfer a chynnal y tirnod poblogaidd yma,” meddai Deborah Clark o Rascal.
“Mae pawb yn y gymuned a phobl ymhellach i ffwrdd yn mwynhau gweld y bocs, ac fe fydd y grant yn sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn mynd i allu ei fwynhau hefyd.”
‘Adfer a chynnal’
Mae’r bocs heddlu ymysg 12 safle hanesyddol fydd yn derbyn dros £400,000 oddi wrth y llywodraeth.
Bydd y grantiau rhwng £5,000 a £162,000 yn cael eu defnyddio ar gyfer gwaith adfer ac atgyweirio.
“Rwy’n falch iawn o allu cynnig y grantiau yma ar gyfer atgyweirio adeiladau hanesyddol”, meddai Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad.
“Fe fydd y grantiau’n sicrhau bod yr adeiladau pwysig yma’n cael eu hadfer a’u cynnal i genedlaethau’r dyfodol.”