Fe fydd cymunedau mewn rhannau o Gymru’n gallu cynnig am gyfanswm o £7 miliwn o arian cyhoeddus i greu cynlluniau ynni gwyrdd lleol.
Fe allai hynny olygu rhwng £100,000 a £300,000 at godi melinau gwynt a chreu cynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach.
Fe gyhoeddodd Gweinidog Amgylchedd y Llywodraeth y bydd yr arian ar gael ar draws ardaloedd Amcan 2 yng Nghymru gyda’r nod o’u gwneud yn fwy hunangynhaliol a thorri ar eu hôl troed carbon.
Yn ôl Jane Davidson, fe fydd hefyd yn gyfle i gymunedau wneud arian – mae gan Lywodraeth Prydain gynlluniau i wobrwyo unigolion, busnesau a chymunedau sy’n cynhyrchu eu hynni eu hunain.
“Dw i eisiau gweld cymunedau’n dechrau allforio ynni,” meddai. “Fe allan nhw gynhyrchu incwm i’w ddefnyddio i helpu talu am ddatblygiadau lleol.”
Cyfanswm o £15 miliwn
Mae’n disgwyl y bydd yr arian Ewropeaidd – trwy gynllun o’r enw’r Rhaglen Cynhyrchu Ynni Adnewyddadwy ar Raddfa Gymunedol – yn arwain at gyfanswm buddsoddi o £15 miliwn.
Fe fydd y rhaglen hefyd yn cynnwys gwasanaeth i roi cyngor i gymunedau.
Mae’n disgwyl rhoi arian at 22 o gynlluniau yn y Gorllewin a’r Cymoedd a grantiau llai i gynnal hyd at 130 o astudiaethau.
Fe fydd cynlluniau biomas – llosgi gwastraff a chnydau naturiol – yn cael arian trwy gynllun o dan y Comisiwn Coedwigaeth.
Llun: Y Gweinidog Amgylchedd, Jane Davidson