Dyw tua 44 miliwn o alwadau’r flwyddyn i’r gwasanaeth treth ddim yn cael eu hateb, meddai corff craffu.
Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn dweud bod y gwasanaeth mewn 31 o ganolfannau cyswllt cwsmeriaid sydd gan adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn “annerbyniol.”
Er gwaetha’r ffaith eu bod yn cyflogi tua 10,500 o staff llawn amser a hynny ar gost o £233 miliwn, fe fethodd y gwasanaeth ag ateb 43% o’r 103 miliwn o alwadau a wnaed i’r adran yn ystod 2008-09.
Yn ystod y cyfnodau prysuraf ym mis Mehefin, dim ond un o bob tair galwad oedd yn cael ei hateb.
Ar ben hynny, roedd rhaid i’r rhai a lwyddodd gysylltu aros cyfartaledd o ddau funud cyn cael ateb – a bron i bedwar munud os oedden nhw’n ffonio yn ystod yr amseroedd prysuraf.
Fe ddywedodd Edward Leigh, Cadeirydd Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn Nhŷ’r Cyffredin, nad oedd safon y gwasanaeth yn “ddigon da”.
“Rwy’n falch fod Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi sylwi fod y gwasanaeth hwn yn annerbyniol,” meddai. “Rwy’n disgwyl gwelliant cyflym.”
Llun: Pencadlys yr Adran Cyllid a Thollau yn Llundain