Mae rhoi tai ar stilts, creu adeiladau sy’n nofio ar wyneb y dŵr a throi ardaloedd dinesig yn ôl yn forfa heli ymysg argymhellion adroddiad newydd i ddelio â llifogydd a chynnydd yn lefel y môr.

Mae’r ymchwil gan Athrofa Frenhinol Penseiri Prydain a’r Sefydliad Peirianwyr Sifil yn rhybuddio bod 7,500 milltir o arfordir Prydain mewn peryg gan lifogydd.

Bydd cynnydd yn lefel y môr, tir yn suddo a rhagor o dywydd garw yn bygwth trefi a dinasoedd ar yr arfordir, meddai’r adroddiad.

Mae’n cynnig argymhellion i gynllunwyr trefol a phenseiri ynglŷn â sut i gynllunio ac adeiladu mewn modd sy’n gwrthsefyll y bygythiad.

Un o’r argymhellion oedd “ymosod” ar y broblem drwy adeiladu allan ar y dŵr, gydag adeiladau yn cael eu hynni o’r llanw.

Angen gweithredu ‘nawr’

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar ddwy ddinas, Hull a Portsmouth, sydd dan fygythiad.

Roedd yr adroddiad yn argymell troi’r ardal ddinesig ar hyd yr afon yn Hull yn forfa heli er mwyn amddiffyn gweddill y ddinas rhag llifogydd. Gallai adeiladau newydd gael eu codi ar dir uwch a’r orsaf drenau yn cael ei adeiladu ar stilts.

“Mae’r senarios yma’n eithafol, ond r’yn ni’n wynebu bygythiad eithafol,” meddai Ruth Reed, llywydd Athrofa Frenhinol Penseiri Prydain.

“Mae tua 10 miliwn o bobol yn byw mewn ardaloedd sydd dan fygythiad gan lifogydd yng Nghymru a Lloegr.

“Ond os byddwn ni’n gweithredu’n awr fe allwn ni addasu mewn ffordd a fydd yn rhwystro chwalfa ac yn sicrhau bod cymunedau ar yr arfordir yn parhau i ffynnu. Ond y gair allweddol yw ‘nawr’.”