Mae Cynulliad Cymru yn 47fed yn rhestr 100 uchaf o fannau gwaith sy’n gyfeillgar at bobol hoyw.

Mae hynny’n gynnydd sylweddol ar y llynedd pan oedd yn 73fed ac wedi ennill teitl ‘Y cyflogwr sydd wedi gwella fwyaf yng Nghymru’.

Roedd Heddlu Gogledd Cymru yn y 50fed safle – un o 11 o heddluoedd yn yr hanner cant cynta’. Roedd pum heddlu o Loegr yn yr ugain ucha’.

Mae’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle, sy’n cael ei gynhyrchu gan y mudiad hawliau cyfartal, Stonewall, yn ystyried nifer o agweddau:
• Strategaethau corfforaethol
• Pa rwydweithiau lesbaidd, hoyw a deurywiol sydd ar gael ymhlith staff
• Polisïau i ddatblygu staff a’u tynnu i mewn i bolisïau cydraddoldeb
• Ymateb cadarnhaol.

‘Balch’

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi cael ein gosod yn y 47fed safle ar fynegai Stonewall,” meddai Lorraine Barrett AC, y Comisiynydd dros y Cynulliad Cynaliadwy.

“Mae’n dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu man gwaith lle mae ein staff i gyd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.”.

Yn dilyn eu llwyddiant, fe ddywedodd y Comisiynydd y bydd y gydnabyddiaeth yn eu “hannog i wneud mwy fyth yn y dyfodol er mwyn sicrhau cydraddoldeb”.

Ymateb Stonewall

“Llongyfarchiadau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a’r holl gyflogwyr eraill yng Nghymru a sicrhaodd le ar restr 100 Uchaf Stonewall 2010 gan fod y gystadleuaeth yn fwy ffyrnig nag erioed,” meddai Liz Jones, Cyfarwyddwr Stonewall.

• Roedd Cyngor Caerdydd yn 75fed ar y rhestr.