Bydd diffoddwyr tân o ganolbarth Cymru ymysg yr achubwyr cyntaf i gyrraedd Haiti ar ôl y daeargryn yno.

Fe deithiodd aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru i’r ynys yn y Caribî ddoe yn rhan o dîm o 64 o achubwyr.

Mae ganddyn nhw offer codi trwm er mwyn ceisio achub bywydau’r rheiny sydd wedi’u caethiwo o dan rwbel adeiladau.

Mae aelodau’r tîm yn wirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi yn arbennig er mwyn ymateb i gais y Llywodraeth am gymorth yn dilyn trychinebau tramor.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Peter Hain ei fod yn canmol y dynion tân ac yn gobeithio’r gorau “wrth iddyn nhw wneud pob peth posib er mwyn achub bywydau a lleihau’r dioddefaint ar yr ynys”.

“Mae pethau’n mynd yn fwy a mwy anobeithiol ond rydw i’n gwybod y bydd y gwirfoddolwyr o Gymru yn achub cymaint o fywydau a sy’n bosib wrth iddyn nhw frwydro yn erbyn amser i ddod o hyd i’r goroeswyr”.

Mae ofnau fod tua 50,000 o bobol wedi marw ar ôl y daeargryn 7.0 ar y Raddfa Richter dydd Mawrth.

Dywedodd Douglas Alexander, y gweinidog Datblygiad Rhyngwladol, y dylai pobol Cymru fod yn “falch o ymdrechion yr arbenigwyr chwilio ac achub o Gymru.”