Mae’r tywydd difrifol wedi tanlinellu’r angen am wella’r gwasanaeth ffonau symudol yng ngogledd Cymru, meddai ymgeisydd seneddol.
Mewn rhai achosion, fe allai hynny olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw, yn ôl
Llyr Huws Gruffydd, darpar ymgeisydd Plaid Cymru tros Orllewin Clwyd.
Gyda llawer o flychau ffôn traddodiadol wedi mynd, roedd hi’n loteri i gael signal i ffonau symudol mewn ardaloedd gwledig, meddai mewn llythyr at Stephen Timms, y Gweinidog tros Brydain Ddigidol.
Ar hyn o bryd, mae’r cwmnïau ffôn symudol yn defnyddio rhwydweithiau gwahanol – os nad oes signal digon cry’ ar gyfer rhwydwaith penodol, does dim modd gwneud galwad.
“Mae’n ddigon hawdd meddwl am sefyllfaoedd lle gallai signal ffôn symudol achub bywydau,” meddai Llyr Huws Gruffydd.
Mae’n galw am system lle bydd ffonau’n gallu crwydro o un rhwydwaith i’r llall nes dod o hyd i signal ddigon cry’. Mae hynny eisoes yn digwydd mewn gwledydd eraill yn Ewrop.
Chwarae teg – y ddadl
“Mae ffonau symudol yr un mor gyffredin â ffonau gwifren heddiw. Dylem ddisgwyl yr un ansawdd o wasanaeth,” meddai Llyr Huws Gruffydd.
“Byddai medru ‘crwydro’ o un rhwydwaith i un arall yn gwella’r sefyllfa yma’n fawr. Nid yn unig y byddai hyn yn arwain at well gwasanaeth i gwsmeriaid, ond mi fyddai hefyd yn caniatáu gwneud mwy o alwadau, sy’n newyddion da i’r cwmnïau ffonau symudol.”
“Rwy’n gobeithio’n fawr y bydd y Gweinidog yn gweithredu ar y mater hwn gan ddangos bod y Llywodraeth o ddifrif am sicrhau gwasanaethau cyfartal i bobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.”
Llun (Harald Hubich – Trwydded GNU)