Cafodd bom o’r Ail Ryfel Byd ei gadw y tu allan i dafarn yn Alaska am flynyddoedd heb i neb wybod ei fod yn dal i fod yn beryglus.

Roedd perchennog y dafarn wedi bod yn arddangos y bom 1,263 pwys y tu allan gan feddwl nad oedd yn ‘fyw’.

Dim ond pan gafodd y bom ei roi i Amgueddfa Hanes Kodiak y gwnaeth y cyfarwyddwr edrych arno a sylwi y gallai’r bom ddinistrio’r adeilad, 60 mlynedd ar ôl cael ei ollwng.

Fe aeth milwyr lleol i edrych ar y bom a darganfod ei fod yn dal i gynnwys y deunydd ffrwydrol Dunnite.

Ffrwydrodd y milwyr y bom a rhoi darn o’r gweddillion i’r amgueddfa.