Mae tua 100,000 o deuluoedd tlotaf Prydain mewn dyled o fwy nag £80 miliwn oherwydd eu bod wedi benthyg gan fenthycwyr arian anghyfreithlon i dalu am y Nadolig, yn ôl grŵp o gymdeithasau tai.
Yn ôl Circle Anglia, mae’r teuluoedd sydd â lleia’ o incwm yng nglwedydd Prydain wedi benthyg £29 miliwn gan fleiddiaid ariannol – loan sharks – er mwyn talu am eu gwario tros y Gwyliau.
Gyda chyfraddau llog, fe fydd y swm hwnnw’n codi i £82 miliwn yn ôl y gwaith ymchwil newydd. Fe fydd rhai yn dal i dalu erbyn y Nadolig nesa’.
Roedd y grŵp wedi comisiynu’r adroddiad gan y Financial Inclusion Centre ar ôl sylwi bod mwy a mwy o’u tenantiaid yn cael eu targedu gan y benthycwyr anghyfreithlon.
Yn ôl Circle Anglia, y Nadolig hwn oedd y gwaethaf mewn cenhedlaeth gyfan o ran benthyciadau anghyfreithlon gyda phobol ar gyfartaledd yn benthyg £300 a gorfod talu £800.
Maen nhw’n honni fod cynnydd o 22% wedi bod yn nifer y bobl sy’n defnyddio benthycwyr anghyfreithlon yn ystod y tair blynedd diwetha’.
Yr amcangyfri’ yw bod tua 200,000 o bobol wedi defnyddio benthycwyr anghyfreithlon yn 2009.