James Hook ynte Stephen Jones? Mae’r ddadl dros y maswr gorau yn un sy’n byrlymu’n ddiddiwedd yng Nghymru. Dyma’r 10 gorau mae’r ‘fly-half factory’ wedi eu cynhyrchu dros y blynyddoedd…

Rhif 10: Carwyn James

Yn fab i löwr o Gefneithin yng Nghwm Gwendraeth, dau gap yn unig enillodd Carwyn James i dîm Cymru (unwaith yn ganolwr) ac erbyn hyn mae’n cael ei gofio yn bennaf am fod yn hyfforddwr gyda Llanelli a’r Llewod.

Ar ôl dychwelyd o’r rhyfel fe fu’n chwarae yn gyson dros Lanelli, ac mae’n debyg y byddai wedi ennill mwy o gapiau i Gymru pe na bai’n cystadlu am ei le gyda’r anorchfygol Cliff Morgan.

Ef oedd hyfforddwr y Llewod yn 1971, yr unig dîm i ennill taith yn erbyn Seland Newydd, a hyfforddwr Llanelli pan faeddon nhw’r Crysau Duon y flwyddyn ganlynol.

Safodd yn ymgeisydd Plaid Cymru yn Llanelli yn etholiad cyffredinol 1970.

Rhif 9: Gareth Davies

Yn enedigol o Gwm Gwendraeth gadawodd y fro i gynrychioli clwb rygbi Caerdydd lle’r oedd yn chwaraewr o fri yn safle’r maswr. Enillodd 21 cap i Gymru rhwng 1978-1985, a’r Goron Driphlyg yn 1979, ac aeth yn ei flaen i gynrychioli’r Llewod ar daith 1980 i Dde Affrica.

Roedd yn chwaraewr craff gyda chic nerthol, ond roedd dilyn ôl traed Phil Bennet a Barry John yn dipyn o gamp, yn enwedig mewn cyfnod o ddirywiad cyffredinol yn rygbi Cymru.

Ar ôl ymddeol o rygbi aeth yn ei flaen i fod yn arweinydd adran chwaraeon y BBC, prif weithredwr clwb rygbi Caerdydd a chadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru.

Rhif 8: David Watkins

Mab i löwr o Blaina, Gwent a enillodd 21 cap dros Gymru. Roedd yn rhan o’r tîm wnaeth fachu’r Gordon Driphlyg yn 1965, cyn iddo symud i rygbi’r gynghrair yn 1967.

Fe fu’n gapten ar Gymru dair gwaith yn 1967, ac ef yw’r unig chwaraewr erioed i fod yn gapten ar Lewod rygbi’r Undeb, yn Awstralia yn 1966, a Llewod rygbi’r Gynghrair, yn gapten a hyfforddwr yn 1976.

Roedd yn ffigwr blaenllaw pan faeddodd Casnewydd y Crysau Duon yn 1963, yr unig dro i Seland Newydd golli ar eu taith y tymor hwnnw.

Er ei feistrolaeth o safle’r maswr yn rygbi’r undeb methodd a gwneud argraff yno ar ôl arwyddo i dîm Salford rygbi’r gynghrair am £15,000, a chafodd ei symud i safle’r canolwr.

Rhif 7: Percy Frank Bush

Chwaraewr o Ben y Graig oedd yn fab i un o sylfaenwyr clwb rygbi Caerdydd. Yn 1904 bu’n aelod o dîm Prydain yn Awstralia a Seland Newydd, lle sgoriodd 104 o bwyntiau, 17 o’r rheiny mewn un gêm.

Aeth yn ei flaen i ennill wyth cap dros Gymru yn faswr rhwng 1905 a 1910, ac roedd yn ffigwr blaenllaw ym muddugoliaeth Cymru yn erbyn Seland Newydd (3-0) yn 1905.

Roedd yn gapten ar glwb Caerdydd yn nhymor 1905-06 ac fe gafwyd buddugoliaeth ym mhob gêm heblaw un yn erbyn y Crysau Duon.

Yn 1918 penodwyd ef yn ddirprwy-gonswl Prydeinig dinas Nained (Nantes), ble’r oedd wedi symud. Roedd yn frawd i’r heddychwraig Ethel M. Bush.

Rhif 6: Stephen Jones

Yr unig chwaraewr ar y rhestr sydd yn dal i fod yn chwarae heddiw, felly mae’n anodd mesur llwyddiant Stephen Jones tan fod ei ddyddiau chwarae ar ben. Ond gyda dwy Gamp Lawn eisoes dan ei wregys mae ei le ar y rhestr yn sicr.

Mae eisoes wedi ennill 83 cap dros Gymru, 6 dros y Llewod, ac mae’n 10fed yn rhestr rhyngwladol y sgorwyr pwyntiau, gyda 784.

Ymunodd gyda Chlwb Rygbi Llanelli yn 1996 a, heblaw am gyfnod yn Clermont rhwng 2004-06, mae yno o hyd.

Chwaraeodd ran flaenllaw yng Nghamp Lawn Cymru yn 2005, yn enwedig yn y gêm yn erbyn Ffrainc yn y Stade de France, ac fe wnaeth bedwar ymddangosiad yng Nghamp Lawn 2008 er iddo ddechrau’n ail i James Hook.

Dewiswyd yn sgwad y Llewod ar gyfer y daith i Seland Newydd yn 2005, ond cafodd maswr Lloegr Johnny Wilkinson ei ddewis o’i flaen ar gyfer y gêmau prawf – er mai Stephen Jones, yng ngolwg nifer, oedd ar ei orau. Collodd y Llewod bob gêm brawf.

Ef oedd y dewis cyntaf fel maswr ar gyfer y Llewod yn 2008, chwaraeodd bob gêm brawf ac, yn yr ail brawf, fe dorrodd y record am nifer y pwyntiau yn erbyn De Affrica gan Lew.

Rhif 5: Cliff Morgan

Ymunodd y maswr o Drebanog â chlwb rygbi Caerdydd yn syth ar ôl gadael yr ysgol yn 1949. Aeth i chwarae rygbi i’r Bective Rangers yn Iwerddon yn nhymor 1955-6.

Enillodd 29 cap i Gymru rhwng 1951 a 1958, ac roedd yn rhan o’r tîm enillodd Gamp Lawn yn 1952, a gwnaethpwyd ef yn gapten tîm Cymru yn 1956.

Teithiodd i De Affrica gyda’r Llewod yn 1955 gan sgorio cais yn y gêm brawf gyntaf o flaen torf o 100,000, a sicrhaodd buddugoliaeth o 23-22. Roedd yn gapten yn y drydedd gêm brawf gan ennill 9-6.

Yn dilyn ei ymddeoliad trodd ei law at ddarlledu ac mae ei lais yn gyfarwydd i unrhyw un sydd wedi gwylio ‘y cais gorau erioed’, gan Gareth Edwards yn gêm y Barbariaid yn erbyn y Crysau Duon yn 1973.

Rhif 4: Jonathan Davies

Fel Sergio Parisse i’r Eidal mae’n anoddach chwarae’n dda mewn tîm gwael ac mae’r gallu i wneud hynny yn dangos gwir ddawn chwaraewr.

Ac yntau’n ddim ond 5’8 a 12 stôn, roedd Jonathan Davies o Drimsaran dan anfantais amlwg wrth wynebu cewri’r gêm ond roedd ei sgil gyda’r bêl yn gwneud yn iawn am hynny.

Wedi 35 gem gyda’i glwb Castell-nedd cafodd ei ddewis i chwarae yn erbyn Lloegr ym Mharc yr Arfau. Sgoriodd gais a chic adlam a chafodd ei enwi’n seren y gêm.

Enillodd 36 cap arall dros ei wlad, ac ennill y Goron Driphlyg yn 1988. Ond fel David Watkins gynt, diflannodd i’r gogledd i chwarae rygbi’r gynghrair a daeth ei lwyddiannau mwyaf yn y fan honno.

Cafodd ei enwi’n gapten yn ystod taith 1988 i Seland Newydd. Sgoriodd gais gwych o 90 llath, ond aeth y tim yn eu blaen i golli o 50 pwynt.

Rhif 3: Neil Jenkins

Fel ciciwr y mae Neil Jenkins yn cael ei gofio yn bennaf. Yn ei 87 cap sgoriodd y dyn pengoch o Bentref Eglwys 1,049 o bwyntiau, y dyn cyntaf yn hanes gêmau prawf i dorri’r 1,000.

Daeth i’r amlwg ar y llwyfan rhyngwladol ym mhencampwriaeth Pum Gwlad 1991 ond collodd ei le i Mark Ring yng Nghwpan y Byd y flwyddyn honno.

Cafodd ei ddewis i’r Llewod ar ddwy daith, yn 1997 a 2001, gan ennill pedwar cap a sgorio 41 o bwyntiau.

Ym mhencampwriaeth Pum Gwlad 1999 ciciodd gol ym munudau olaf y gêm gan faeddu Lloegr a rhoi’r bencampwriaeth yn nwylo’r Alban.

Erbyn hyn mae’n hyfforddwr cicio golau yn nhîm Cymru.

Rhif 2: Phil Bennett

Dim ond 29 cap a enillodd Phil Bennett i Gymru rhwng 1969 a 1978 ond roedd hynny’n arwydd o’r safon yn y sgwad yn hytrach nag unrhyw ddiffyg safon ar ei ran o.

Gwnaeth y dyn o Felinfoel ei ymddangosiad cyntaf mewn gem yn erbyn Ffrainc yn 1969 – y chwaraewr cyntaf erioed i ddod oddi ar y fainc pan gafodd Gerald Davies ei anafu. Fe fu’n chwarae fel canolwr a chefnwr ond bachodd safle’r maswr gydag ymddeoliad Barry John yn 1972.

Fe aeth ar ddwy daith gyda’r Llewod, gan gynnwys y daith i De Affrica yn 1974, lle sgoriodd 104 o bwyntiau gan gynnwys cais