Mae cynghorydd o Sir Fynwy wedi plannu coed ar gae ysgol lle mae cynlluniau i adeiladu archfarchnad newydd.

Roedd Anthony Perrett, 29, wedi plannu’r 199 o goed heb ganiatâd swyddogol yn y cae ar dir Ysgol Cil-y-coed a does ganddo ddim bwriad i’w symud.

Safiad yn erbyn polisïau amgylcheddol Cyngor Sir Fynwy yw’r brotest, meddai’r coedwigwr.

“Mewn gwlad lle mae mwy a mwy o blant yn rhy dew, dydw i ddim yn credu ei bod hi’n syniad da i godi archfarchnad ar gaeau ysgol,” meddai.

Amharu ar chwarae rygbi

Mae prifathrawes yr ysgol, Susan Gwyer-Roberts, wedi ei feirniadu, gan ddweud fod y coed yn peryglu’r plant.

Plannwyd y coed wrth ymyl cae rygbi’r ysgol, ac ers iddyn nhw ddechrau tyfu, mae’r ysgol wedi penderfynu rhwystro’r plant rhag chwarae yno.

Ond mae Anthony Perrett yn mynnu fod y coed wedi eu plannu yn ddigon pell o’r cae rygbi, a’u bod ddim yn beryglus o gwbl.

“Dyma oedd fy ysgol i,” meddai.

“Fe chwaraeais rygbi ar y cae yna, a’r peth olaf dwi am weld yw Tesco arno fe.

“Mae’r coed yma yn anrheg i blant Cil-y-coed.”


Cyngor yn methu gweithredu

Mae’r cyngor sir wedi dweud fod dim modd iddyn nhw godi’r coed, gan taw eiddo Anthony Perrett ydyn nhw.

Yn ôl arweinydd y cyngor, Peter Fox, mae’r awdurdod yn ystyried beth i’w wneud nesaf.

Fe wnaeth amddiffyn bolisïau amgylcheddol y cyngor, gan ddweud fod gweithredu’n erbyn cynhesu byd eang yn “flaenoriaeth allweddol.”

Ychwanegodd fod cynlluniau i adfywio Cil-y-coed drwy adeiladu archfarchnad wedi eu hatal ar hyn o bryd oherwydd gwrthwynebiad lleol.