Ifan Morgan Jones sydd wedi bod yn cadw llygad ar yr ymchwiliad i ryfel Irac…
Dros y penwythnos fe wnaeth Prydain ymateb gyda diffyg syndod llwyr i’r newyddion bod Tony Blair yn benderfynol o oresgyn Irac, WMD ai peidio.
Mae’n wir fod y Llywodraeth wedi dweud yn blaen cyn y rhyfel mai mynd i Irac er mwyn dileu arfau dinistriol Saddam Hussain oedden nhw.
Ond dydw i ddim yn cofio neb yn credu hynny ar y pryd, a’r wythnos yma mae Tony Blair wedi cyfaddef y byddai wedi “deploy-io” dadl arall (o fewn 45 munud?) pe bai’r ddadl gyntaf wedi methu.
Roedd yna fai ar Saddam hefyd wrth gwrs. Ei gamgymeriad oedd rhoi’r argraff fod ganddo WMD yn y lle cyntaf, er eu bod nhw wedi eu dinistrio flynyddoedd ynghynt.
Roedd o’n gwneud hyn, mae’n siŵr, er mwyn gwisgo’r het fawr yn y gymuned ryngwladol. Heb sylwi ei fod yn gwisgo targed mawr ac esgus cyfleus i ymosod ar ei ben.
Mae’n beth trist pan fydd gwlad yn teimlo bod maint eu balchder cenedlaethol yn gyfystyr â nifer y taflegrau sydd yn eu gardd gefn. Roedd y murluniau o Saddam yn Baghdad, oedd yn ei ddangos o’n marchogaeth i frwydr ar gefn ceffyl gwyn wrth i danciau rowlio bob ochor iddo, a thaflegrau’n cneifio ei fwstash ar y ffordd heibio, yn profi hynny. Yn enwedig tra bod adfeilion gwreiddiau’r ddynoliaeth yn chwalu’n ddarnau o’i gwmpas.
Dylai Iran fod yn gwneud nodiadau.
Darlun ffug oedd y murlun. Ond dyna’r union ddarlun a gafodd ei gynnig gan Tony Blair a George Bush. Pan ddaeth Saddam Hussain i’r fei o’r diwedd, fel llygoden flêr o dwll, daeth yr unben go iawn i’r golwg.
O fod yn gwbl onest, does dim angen ymchwiliad i’r rhyfel yn Irac. Roedd Tony Blair yn anonest, ac yn gi bach i’r Unol Daleithiau. Roedd George Bush yn benderfynol o fynd i ryfel beth bynnag oedd y canlyniadau, ac wedi penderfynu hynny yn fuan ar ôl ymosodiadau 9/11. Doedd dim cynllun i ail adeiladu’r wlad ac roedd llywodraeth yr Unol Daleithiau yn naïf i ddisgwyl croeso cynnes gan frodorion yn “dawnsio yn y strydoedd”.
Roedden ni’n gwybod hynny yn 2003.
Mae protestwyr yn anhapus na fydd yr ymchwiliad, yn ôl ei gadeirydd ei hun, yn “rhoi’r bai” ar neb. Ond a fyddai hynny’n fwy nag ymgais i leddfu ein cydwybod ni, a fethodd wneud dim ar y pryd?
Roedd digon o bobol yn gwrthwynebu’r rhyfel, oedd. Ond a bod yn gwbl onest rydym ni’n fel teyrnas yn llawer mwy crac am y biliynau sydd wedi eu colli yn y dirwasgiad ariannol na’r degau o filoedd sydd wedi colli eu bywydau yn Irac.
Unig bwynt yr archwiliad yw dysgu gwersi at y dyfodol. Ond wrth i Gordon Brown ddilyn trywydd yr Unol Daleithiau a gaddo gyrru mwy fyth o filwyr i ryfel diddiwedd Afghanistan, gyda’r un brwdfrydedd â Douglas Haig yn gyrru mwy o filwyr i’r Somme, dw i ddim yn siŵr os oes unrhyw wersi wedi eu dysgu o gwbl.