Bydd 1,700 o bobol yn colli eu swyddi ar ôl i gwmni Corus gyhoeddi y bydd ffatri ddur Redcar yn Teesside yn cau fis nesaf.

Mae arweinwyr undeb wedi dweud fod y newyddion yn “drychinebus”, ac maen nhw wedi galw ar y Llywodraeth i weithredu ar unwaith er mwyn achub swyddi.

Roedd amheuon wedi bod ers misoedd ynglŷn â dyfodol y safle ar ôl i’r prif gwsmer – oedd yn prynu tua 80% o’r cynnyrch – roi pen ar eu cytundeb yn gynharach eleni.

‘Dim archebion’

Yn ôl yr Ysgrifennydd Busnes, yr Arglwydd Mandelson, roedd Corus wedi cadw i fynd drwy sicrhau archebion tymor byr, ond fod dim archebion wedi eu sicrhau wedi diwedd Rhagfyr.

Cadarnhaodd Corus y bydd yn parhau i gyflogi 2,000 o weithwyr yn ardal Teesside, mewn nifer o safleoedd eraill.

Dywedodd prif weithredwr Corus, Kirby Adams, fod dim modd cynnal y safle heb bartner busnes, a bod y cwmni wedi gwneud colled o £130 miliwn rhwng mis Ebrill a Medi.

Gweithwyr cytundeb hefyd

Yn ôl Jimmy Skivington, trefnydd o fewn undeb y GMB, nid dim ond gweithwyr Corus sydd yn cael eu heffeithio, ond rhwng 2,500 a 3,000 o gontractwyr annibynnol hefyd.

Yn ôl swyddog cenedlaethol yr undeb, Keith Hazlewood, roedd sefyllfa’r gweithwyr yn ofnadwy o’i gymharu â’r “miliynyddion” yn y byd bancio sy’n elwa ar “draul y trethdalwr.”

Mae Corus wedi dweud y byddan nhw’n cydweithredu gyda Llywodraeth Prydain i gynorthwyo’r gweithwyr.

Llun: Protest i geisio arbed swyddi dur yn Redcar yn yr haf (Gwifren PA)