Cyfle i ddianc o bwysau “gwaith bob dydd” – yn brif gyfarwyddwr ar y Theatr Genedlaethol – yw sgrifennu rhyddiaith a barddoniaeth i Cefin Roberts.

A deffro’n sydyn ganol nos a meddwl ei fod wedi cael neges destun, oedd y symbyliad i’w nofel newydd, Cymer y Seren.

Dechreuodd feddwl pa mor arswydus fyddai cael neges ddirgel yn dweud “dos allan i’r drws ffrynt”.

“Roedd hi’n swnio fel cychwyn nofel,” meddai. “Mi wnes i godi am dri y bore, a mynd yn syth at y cyfrifiadur. O’n i’n methu â’i rhoi o fy meddwl. Mae hon y math o stori fedrwch chi godi ofn arnoch chi’ch hun.”

‘Licio dweud stori’

“Dw i’n meddwl fy mod i’n licio dweud stori,” meddai’r actor sydd wedi ysbrydoli cenhedlaeth o berfformwyr trwy Ysgol Glanaethwy ac a enillodd y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda’i nofel gynta’.

Bellach mae’n byw yng Nghaerfyrddin yn hen gartref y wraig oedd wedi ei ysbrydoli yntau pan oedd yng Ngholeg y Drindod yn y dref, y darlithydd drama, Norah Isaac.

“Efallai bod ysbryd Norah yma i gyniwair yr awen,” meddai. “Mae hi’n bleser agor y laptop; yn ffordd o ymlacio’n llwyr. Mae rhai’n licio gwau jympars, eraill yn gwau stori.

“Dw i’n lwcus bod gen i bâr da o weill. Dw i’n gwybod bod yr edafedd yma’n o lew.”

• Cymer y Seren, Cefin Roberts, Gwasg Gwynedd, £8.95

Mae gweddill y cyfweliad yn Golwg, Rhagfyr 3.