Mae’r canwr gyfansoddwr Endaf Emlyn wedi camu yn ôl i’r stiwdio recordio wedi saib o 30 mlynedd, ac mae ei CD newydd, Deuwedd, ar fin cyrraedd y siopau.
Mae e’n disgrifio’r profiad o baratoi’r cryno ddisg fel “dod adra”, a hynny ym mlwyddyn ei ben-blwydd yn 60 oed.
Ef oedd un o gantorion mwya’ crefftus Cymru yn y 70au a’r 80au ac fe fu hefyd yn aelod o fandiau arloesol fel Injaroc a Jîp. Ei albym enwoca’, oedd Salem, yr albym un-syniad cynta’ yn Gymraeg.
“Mae’r cryno ddisg yma’n wahanol iawn i fy ngwaith blaenorol, sy’n siŵr o fod yn anochel wrth ystyried bod bron i 30 mlynedd ers i mi weithio ar albym ddiwethaf,” eglura Endaf Emlyn.
“Dw i’n teimlo bod rhaid dweud rhywbeth sylweddol yn ‘Deuwedd,’ rhywbeth o werth – a phan oeddwn i’n iau, doedd dim synfyfyrio dwys wrth greu a pharatoi deunydd.
“Mi deimlais gyfrifoldeb mawr wrth ysgrifennu geiriau ambell gân yn ‘Deuwedd’, caneuon fel ‘Gwenllian Fach’ sy’n rhannu hanes Y Dywysoges Gwenllian, unig etifedd Llywelyn ein Llyw Olaf, a chafodd ei halltudio i Swydd Lincoln gan Edward I.
“Dw i wedi mwynhau’r broses yn arw, ac wedi cael cydweithio â phobol wych wrth roi’r casgliad at ei gilydd. Mae’r broses greadigol a chyfansoddi yn rhan annatod o ’mywyd!”
Y Mabinogi a mwy
Mae’r CD yn gymysgedd o gerddoriaeth jazz, Cajun a thraciau acwstig, ac mae’n dweud ei bod yn cynnig cipolwg hamddenol yn ôl ar fywyd a rhai’ traciau’n cynnig gwedd newydd ar y chwedlau Cymraeg.
Arwydd o hynny yw teitl y cryno ddisg – ‘Deuwedd’ – sy’n golygu dwy olwg ac yn ffurf fyrrach ar enw Blodeuwedd o’r Mabinogion. Mae hefyd, meddai, yn cydnabod pwysigrwydd y bartneriaeth glos rhyngddo ef a’i wraig, Jackie.
Ar ôl ‘Hiraeth’ (1974) a ‘Salem’ (1974), fe ddatblygodd arddull ffync ar ‘Syrffio Mewn Cariad’ (1976) a ‘Dawnsionara’ (1981) a chyhoeddwyd casgliad cyflawn, ‘Dilyn y Graen’, yn 2003.
Ar ôl hynny, fe fu’n gyfarwyddwr rhaglenni teledu a ffilm, gan gynnwys rhaglenni cofiadwy fel Shampŵ a’r ffilmiau Un Nos Ola Leuad a Gadael Lenin.
* Mae ‘Deuwedd’ ar gael o siopau Cymraeg ar label Sain.