Mae elusen hawliau dynol yn honni fod mwy na 900 o garcharorion – gan gynnwys 17 o wragedd – yn wynebu’r gosb eithaf yn Irac. Mae’n cyhuddo’r Llywodraeth bresennol o ymddwyn fel Saddam Hussein.
Yn ôl Amnest Rhyngwladol, mae Cyngor Arlywyddol Irac wedi cymeradwyo dedfrydau’r carcharorion sy’n cael eu cyhuddo o droseddau difrifol megis llofruddiaeth a herwgipio.
Ond mae hi’n “debygol,” yn ôl yr elusen, fod llawer o’r achosion llys wedi bod yn annheg, ac maen nhw’n ofni fod Llywodraeth Irac yn eu defnyddio i geisio dangos agwedd gadarn at gyfraith a threfn, cyn yr etholiadau cenedlaethol ym mis Ionawr.
Yn ôl un o gyfarwyddwyr Amnest Rhyngwladol, Tim Hancock, mae yna 120 o garcharorion wedi cael eu dienyddio eisoes yn Irac eleni, sy’n gynnydd mawr o’r 34 a restrwyd yn 2008.
‘Dynwared Saddam’
Yn ôl yr elusen, defnydd o’r gosb eithaf oedd un o’r “agweddau gwaetha’” ar gyfundrefn Saddam Hussein, ac fe ddylai’r llywodraeth bresennol roi’r gorau i “ddynwared ei ymddygiad.”
Yn lle crogi “bron i fil o bobol” meddai Tim Hancock , dylai awdurdodau Irac atal y dienyddio a gwahardd y gosb eithaf ar unwaith.
Yn ôl Amnest Rhyngwladol, maen nhw wrthi ar hyn o bryd yn cysylltu gyda llysgenadaethau Irac ar draws y byd mewn ymgais i rwystro’r dienyddio, a allai ddigwydd unrhyw bryd.