Fe fydd ail Ŵyl Delynau Cymru yn helpu i agor llygaid telynorion ifanc i’r hyn sy’n digwydd yng ngweddill y byd, meddai un o’r goreuon, Catrin Finch.
Gyda dim ond ychydig dros fis ar ôl i gofrestru ar gyfer Cystadleuaeth Gŵyl Delynau Rhyngwladol Cymru, 2010, fe ddywedodd y delynores ryngwladol bod y Cymry weithiau’n euog o fod yn blwyfol.
“Mae gŵyl fel hon yn helpu pobl ifanc i sylwi faint o delynorion eraill sydd o gwmpas y byd,” meddai wrth Golwg 360. “Rydan ni’n euog o aros yn ein hardaloedd ein hunain yn aml. Nid jest Cymru sydd yna.
“Mae’n gallu agor cymaint o ddrysau a rhoi cyfleoedd i bobol ifanc. Mae hefyd yn gyfle i wneud ffrindiau.”
Mae gan ymgeiswyr hyd at Ionawr 20fed i gofrestru ar gyfer y cystadlaethau yn yr Ŵyl yn Galeri Caernarfon. Fe fydd hefyd yn rhoi cyfle i wrando ar rai o enwau mawr y byd.
Yn ogystal â Catrin Finch ei hun, mae’r enwau mawr eleni’n cynnwys Deborah Henson-Conat o’r Unol Daleithiau, Mara Galassi o’r Eidal, Isabelle Perrin a Constance Luzzati o Ffrainc. Hi oedd enillydd y gystadleuaeth y tro diwetha’, yn 2006.
Mae’r Ŵyl yn cynnig cystadlaethau telyn pedal i rai dan 30, dan 19 a dan 14 ac mae cystadlaethau telyn ddi-bedal a thelyn deires hefyd.
Elfen arall y tro yma, meddai’r trefnydd yw dathlu geni ”un o delynorion mwyaf Cymru John Parri, Rhiwabon”. Roedd wedi ei eni yn 1710.
‘Gwych’
Fe ddywedodd y delynores Gwenan Gibbard fod cael gŵyl delynau ar lefel rhyngwladol yng Nghymru’n “beth gwych.”
“Mae’n gyfle i ni ddathlu’r ffaith fod y delyn yn ganolog yn ein diwylliant cerddorol ni. Mae Cymru wedi bod yn enwog erioed am ei thelynorion, felly pa le gwell i gael gŵyl delynau?”.
Fe fu Gwenan Gibbard yn cymryd rhan mewn cyngerdd gwerin gyda thelynorion o’r gwledydd Celtaidd yn yr ŵyl gyntaf yn 2006.
“Mae yna wyliau telyn wedi bod yn Llydaw, yr Alban ac Iwerddon ers blynyddoedd, a bellach mae’n braf cael eu gwahodd nhw’n ôl yma i i Gymru.”