Fe fydd David Cameron yn addo gweithredu yn erbyn “diwylliant iechyd a diogelwch” sydd, meddai ef, wedi mynd “dros ben llestri”.
Yn ôl arweinydd y Ceidwadwyr bai’r blaid Lafur yw hi bod “blanced o fiwrocratiaeth, drwgdybiaeth ac ofn” yn gorchuddio’r wlad.
Fe fydd yn cyhoeddi adolygiad eang o’r maes mewn araith heddiw. Dywedodd y dylai busnesau bychan a chyrff gwirfoddol gael llai o gyfrifoldebau iechyd a diogelwch.
Dywedodd David Cameron bod y bwriad y tu ôl i reolau iechyd a diogelwch yn “iawn” a bod y gyfraith wedi achub nifer o fywydau ond fod “rhywbeth wedi mynd o’i le gydag ysbryd iechyd a diogelwch yn ystod y degawd diwethaf”.
“Mae plant yn cael eu gorfodi gan eu hathrawon i wisgo gogls i chwarae concyrs,” meddai. “Dyw rhywun sy’n hyfforddi i drin gwallt ddim yn cael defnyddio siswrn yn y dosbarth.”
Fe fydd yn beio biwrocratiaeth San Steffan a Brwsel am nifer o’r problemau gan ddweud bod “ofn torri’r rheolau” yn gwneud i bobol “sefyll o’r neilltu pan fydd eraill angen help”.