Fe fydd y Blaid Lafur yng Nghymru yn enwi eu harweinydd newydd prynhawn yma.

Carwyn Jones, y Cwnsler Cyffredinol, yw ffefryn y bwcis ers wyth wythnos bellach i ddilyn Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru.

Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi am 5.30pm yng Nghanolfan y Mileniwm. Fe fydd Rhodri Morgan yn ymddeol ddydd Mawrth nesaf pan fydd disgwyl i’r arweinydd newydd hefyd gael ei ethol yn Brif Weinidog.

A chymryd y bydd aelodau’r Cynulliad yn cadarnhau hynny, fe fydd yr arweinydd newydd yn cymryd yr awenau’r diwrnod wedyn yn drydydd Prif Weinidog ers creu’r Cynulliad yn 1999.

Un o’r tasgau cynta’ fydd tawelu’r ffrae a gododd gyda Phlaid Cymru – eu partneriaid yn y Llywodraeth – tros amseriad refferendwm datganoli.

Er bod Carwyn Jones yn ffefryn clir, mae ei gystadleuwyr, y gweinidog Iechyd Edwina Hart a Huw Lewis, AC Merthyr, yn dal i ddweud eu bod yn obeithiol.

Os bydd Carwyn Jones yn ennill mae disgwyl i Edwina Hart barhau’n aelod o’r cabinet ac mae yna drafodaeth ynglŷn â chynnig lle i Huw Lewis, hefyd.


Her yr arweinydd newydd

Fe gadarnhaodd Rhodri Morgan ei ymddeoliad mis Hydref diwethaf, gan gadw at ei addewid i drosglwyddo’r awenau i arweinydd arall ar ôl bron i 10 mlynedd yn y swydd.

Mae Rhodri Morgan yn gadael ar gyfnod anodd i’r blaid Lafur yng Nghymru. Roedd pôl YouGov diweddar yn awgrymu y gallai’r Torïaid ennill 12 o seddi yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf, gan adael Llafur â 20 yn unig.

Yr wythnos ddiwetha’, fe fu cweryla mawr o fewn Llywodraeth y Glymblaid ar ôl i Lafur roi’r awgrym na fydden nhw’n cefnogi refferendwm buan – rhan allweddol o Gytundeb Cymru’n Un.