Mae aelod o dylwyth pwerus yn y Pilipinas wedi ei gyhuddo o lofruddio 57 o bobol mewn gwrthdaro gwleidyddol.
Roedd hanner y bobol a laddwyd yn newyddiadurwyr a gweithwyr oedd yn cyd-deithio gyda theulu a chefnogwyr ymgeisydd etholiadol.
Bydd o leiaf 10 llygad-dyst yn dweud eu bod nhw wedi gweld Andal Ampatuan Jr yn arwain dynion gyda gynnau, gan gynnwys swyddogion heddlu, i’r fan lle digwyddodd y lladdfa.
Maen nhw’n dweud ei fod wedi rhwystro mintai ei wrthwynebydd funudau cyn y lladdfa ar 23 Tachwedd.
Oriau yn ddiweddarach fe ddaeth milwyr o hyd i gyrff llawn bwledi ger y draffordd wedi eu gadael yn y gwair neu eu claddu ar frys.
Ildio, ond gwadu
Ildiodd Andal Ampatuan Jr i’r heddlu’r wythnos diwethaf ond mae’n gwadu’r cyhuddiadau.
Ef yw etifedd tylwyth sydd wedi rheoli rhanbarth Maguindanao am flynyddoedd ac sy’n gynghreiriad i’r Arlywydd Gloria Macapagal Arroyo (dde).
Mae ei dad, patriarch y tylwyth, a chwe aelod arall o’r teulu yn cael eu hamau ond dydyn nhw ddim wedi cael eu cyhuddo.