Fe ddaethpwyd o hyd i gorff gwraig a ddisgynnodd i’r môr oddi ar long fferi rhwng Iwerddon a Chymru.

Fe alwyd y gwasanaethau brys ychydig cyn deg o’r gloch neithiwr a chafwyd y corff tua dwy awr yn ddiweddarach ychydig filltiroedd i’r môr ger glannau Wexford.

Does dim enw wedi’i gyhoeddi eto ond y gred yw bod y wraig yn ei deugeuniau. Does dim eglurhad eto chwaith ynglŷn â’r hyn ddigwyddodd.

Mae yna rywfaint o ddryswch ynglŷn â pha long yr oedd hi arni – mae gwasanaethau newyddion yn Iwerddon yn sôn am long Stena o Rosslare i Abergwaun ond, ar y BBC, roedd swyddog gwylwyr y glannau Iwerddon yn sôn am yr Isle of Inishmore.

Mae honno’n hwylio o Rosslare i Benfro ac roedd y ddwy long yn gadael Iwerddon am naw o’r gloch neithiwr.

Roedd hofrennydd a mwy nag un cwch achub yn rhan o’r chwilio ac fe arhosodd y llong fferi yn yr ardal nes i’r corff gael ei ffeindio.

Llun: Harbwr Rosslare (Trwydded GNU)