Mae’r wrthblaid yn Awstralia wedi dewis arweinydd newydd ynghanol dadl am newid hinsawdd sy’n rhwygo’r blaid Ryddfrydol yn ddau.
Penderfynodd y blaid ddisodli’r arweinydd Malcolm Turnbull gyda’r arweinydd newydd Tony Abbott ennill pleidlais yn ei erbyn o 42 i 41.
Roedd Malcolm Turnbull wedi cefnogi cynllun gan y Prif Weinidog Kevin Rudd i brynu a gwerthu cwotas carbon, tra bod Tony Abbott yn disgrifio newid hinsawdd fel “crap”.
Mae’n creu trafferthion i’r Llywodraeth hefyd, sydd angen cefnogaeth y Rhyddfrydwyr er mwyn pasio’r ddeddfwriaeth yn y Senedd.
Roedd Kevin Rudd wedi gobeithio y byddai’r ddeddf yn mynd drwy’r Senedd cyn y gynhadledd newid hinsawdd yn Copenhagen wythnos nesaf.
Yr wythnos diwethaf, fe gyhoeddodd Malcolm Turnbull y byddai’n cefnogi’r mesur. Dywedodd Tony Abbott y byddai’n ei wrthwynebu.
Gobaith y Llywodraeth yn awr yw y bydd rhai o’r blaid Ryddfrydol yn penderfynu cefnogi’r mesur er gwaethaf gwrthwynebiad arweinydd newydd y blaid.