Mae ymdrechion yn parhau i berswadio Iran i ryddhau pum llongwr o Loegr sydd wedi eu dal yn gaeth yno.

Mae’n ymddangos bod cwch hwylio y Kingdom of Bahrain wedi crwydro i mewn i ddyfroedd Iran trwy gamgymeriad wrth baratoi i gymryd rhan mewn ras ryngwladol.

Roedden nhw wedi eu cipio bron wythnos yn ôl ond bod y Swyddfa Dramor wedi cadw’r wybodaeth yn dawel rhag amharu ar yr ymdrechion i’w rhyddhau.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, David Miliband, wedi galw am iddyn nhw gael eu gollwng yn rhydd ac fe fu’r Swyddfa Dramor yn rhoi pwysau ar lysgenhadaeth Iran yn Llundain.

Ofn gwrthdaro

Yr ofn yw y bydd y pump yn cael eu defnyddio’n arf yn y gwrthdaro rhwng gwledydd mawr y Gorllewin ac Iran tros ei chynlluniau i ddatblygu safleoedd niwclear.

Fe gododd pris olew ar ôl cyhoeddi’r newyddion, wrth i’r marchnadoedd ofn helynt a allai effeithio ar gyflenwadau o Iran.

Erbyn hyn, mae enwau’r pum llongwr wedi dod yn gyhoeddus – mae un ohonyn nhw, Dave Bloomer, yn DJ gyda gorsaf Radio Bahrain ac mae rhai o’r lleill yn dod o Southampton a Portsmouth. Eu henwau yw Oliver Smith, Oliver Young, Sam Usher a Luke Porter.

Roedd y cwch i fod i gymryd rhan mewn ras o Dubai i Muscat ac i fod i gyrraedd Dubai ddydd Iau diwetha’.