Fe allai clwb y Croesgadwyr Celtaidd orfod talu dirwy o £60,000 oherwydd yr helynt tros chwaraewyr tramor a’u fisas.

Fe gyhoeddodd Asiantaeth Ffiniau’r Deyrnas Unedig na fyddai’r clwb rygbi cynghrair o dde Cymru’n wynebu achos llys ond y byddai’n cael cosb sifil yn lle hynny.

Yr unig ffordd i osgoi’r ddirwy fyddai profi bod y clwb wedi gwneud yr holl waith tjecio angenrheidiol cyn rhoi gwaith i chwech o chwaraewyr o Awstralia.

Hanner ffordd trwy’r tymor diwetha’, fe ddaeth hi’n amlwg nad oedd fisas y chwaraewyr yn caniatáu iddyn nhw weithio yng Nghymru ac fe fu rhaid iddyn nhw adael.

Fe fydd corff rheoli Rygbi’r Gynghrair hefyd yn ymchwilio i’r achos – roedden nhw wedi gorfod aros am gyhoeddiad yr Asiantaeth Ffiniau cyn gweithredu.

Problemau ffeindio cae

Ac nid dyna unig broblemau’r Crusaders – maen nhw’n dod dan bwysau i setlo ble y byddan nhw’n chwarae y tymor nesa’.

Y bwriad oedd symud o Ben-y-bont i Rodney Parade Casnewydd ond mae’n ymddangos nad yw’r cae hwnnw ar gael gymaint â’r disgwyl.

Yr unig gêm sydd wedi ei setlo yw’r gynta’ – ar y Cae Ras yn Wrecsam.