Mae’n bosib y bydd tair ysgol gynradd yn cau ar Ynys Môn ym mis Awst 2011.
Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn wedi cadarnhau heddiw fod cynlluniau i ymgynghori’n ffurfiol ynglŷn â chau Ysgol Aberffraw, Ysgol Tŷ Mawr ac Ysgol Llandrygarn.
Yn ôl y cyngor, mae nifer y disgyblion yn yr ysgolion yma yn isel iawn, a does dim i awgrymu y bydd y niferoedd yn cynyddu.
Dywedodd Arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Clive McGregor, eu bod nhw wedi dod at y penderfyniad i ymgynghori’n ffurfiol “gyda thristwch mawr”.
‘Er lles yr ynys gyfan’
“Daeth y Pwyllgor Gwaith i’w benderfyniad wedi ymgynghori eang ac ystyriaeth ddofn,” meddai Clive McGregor.
“Mae heddiw, heb os, yn ddiwrnod trist i’r ynys a’r cymunedau hynny sydd wedi’u heffeithio, ond mae’n rhaid i ni weithredu er lles buddiannau’r ynys gyfan.
“Mae niferoedd disgyblion yn disgyn … a ni all y sefyllfa bresennol barhau.
“Mae llefydd gweigion yn faich ariannol sylweddol ar yr awdurdod a’n gallu i ddarparu addysg o’r safon gorau ar draws yr holl Sir.”
Ysgol Fro
Mae’r cyngor hefyd wedi cadarnhau fod swyddogion yn datblygu cynllun i sicrhau cyllid i sefydlu Ysgol Fro ar gyfer Ysgol Llanddeusant, Ysgol Llanfaethlu, Ysgol Llanrhuddlad ac Ysgol Llanfachraeth.
Hefyd, cytunodd aelodau fod angen trafod ynglŷn â ffederaleiddio neu greu ysgol aml safle ar gyfer Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig yn Llangefni.
Mae’r Pwyllgor Gwaith hefyd wedi penderfynu ystyried cau un neu ddwy o ysgolion yng Nghaergybi, a chreu un ysgol lai yn eu lle.
Dywedodd y Cynghorydd Goronwy O. Parry, sydd â chyfrifoldebau am Addysg a Hamdden yn y sir, fod £600,000 y flwyddyn “yn cael ei golli” oherwydd llefydd gweigion.
“Ni all Gwasanaeth Addysg, ein hysgolion nac ein disgyblion fforddio colli’r fath arian,” meddai.
“Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi pwysleisio mai ar awdurdodau lleol mae’r cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau caled ynglŷn â rhesymoli ysgolion a dyfodol darpariaeth addysg.
“Mae gennym ni ddyletswydd i greu darpariaeth addysg ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.”