Fe fydd cyn bencampwr y byd, Enzo Maccarinelli yn wynebu Kristian Jaksi yn Newcastle nos Sadwrn.

Mae’n ymladd yn yr un digwyddiad a gornest Amir Khan yn erbyn Dimitry Salita yn Newcastle ar 5 Rhagfyr.

Dyma ymgais diweddaraf y bocsiwr o Abertawe i aildanio ei yrfa ar ôl colli tair o’i pedair ornest ddiwethaf.

Roedd Maccarinelli wedi ystyried ymddeol ar ôl colli yn erbyn Denis Lebedev ym mis Gorffennaf.

Mae’r Cymro’n cael ei hyfforddi gan Derek Lewis o Abertawe, ar ôl penderfynu peidio parhau i ymarfer gyda Karl Ince yn Bolton.

Mae Kristian Jaksi, sy’n 24 oed, gyda record o chwe buddugoliaeth, 12 colled a phedwar gornest cyfartal.