Mae disgwyl i asgellwr y Gweilch a Chymru, Shane Williams fod allan o’r gêm am hyd at chwe’ wythnos ar ôl anafu llinyn y gar yn erbyn Awstralia dros y penwythnos.
Bydd yn ergyd i’w ranbarth wrth iddo golli’r gêm Cwpan Heineken yn erbyn Viadana.
“Fe fydd Shane allan o’r gêm am gyfnod o rhwng pedair i chwe’ wythnos wrth dderbyn triniaeth a gwella,” meddai ffisiotherapydd Cymru, Mark Davies.
‘Siom’
Dywedodd Cyfarwyddwr Rygbi’r Gweilch, Scott Johnson bod y newyddion yn siom, yn enwedig gyda’r diffyg mewnwyr sydd ar gael gan y rhanbarth ar hyn o bryd.
“Mae yn siomedig bob tro ydan ni’n colli chwaraewr o safon Shane. Mae’r newyddion yn ergyd i ni wrth ystyried y sefyllfa gyda’n mewnwyr ar hyn o bryd,” meddai Johnson.
Mae’r Gweilch eisoes heb Mike Phillips, Jamie Nutbrown a Tom Isaacs oherwydd anafiadau.
Maen nhw wedi arwyddo mewnwr De Affrica, Ricky Januaire ar fenthyg am ddau fis i sicrhau bod ganddynt un mewnwr ffit ar gyfer y Cwpan Heineken.
Ond fe fydd capten Cymru a’r Gweilch, Ryan Jones ‘nôl yn ymarfer yr wythnos hon wedi iddo golli’r gêm yn erbyn Awstralia gydag anaf i’w gefn.
Llawdriniaeth i Rees
Mae’n debyg y bydd rhaid i fachwr y Scarlets, Matthew Rees gael llawdriniaeth ar yr anaf i’w werddyr.
“Dyw maint y broblem ddim yn glir, ond rydyn ni wedi bod yn trafod gydag arbenigwyr, ac mae yna bosibiliad cryf y bydd angen i Matthew gael llawdriniaeth,” meddai Mark Davies.