Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi bod yn protestio yn erbyn gorsaf ynni biomas ym Mhort Talbot, fel rhan o ymgyrch yn erbyn cynlluniau i adeiladu mwy o orsafoedd tebyg.
Mae’r protestwyr o Climate Camp Cymru yn protestio yn erbyn cynllun i adeiladu ail safle ar gyfer llosgi coed i greu egni ym Mhort Talbot.
Hon fyddai’r orsaf fwyaf o’i math yng ngwledydd Prydain, a byddai’n costio £400 miliwn i’w hadeiladu.
Maen nhw hefyd yn gwrthwynebu cynlluniau i adeiladu gorsaf debyg yn Ynys Môn.
Heddiw, fe wnaeth dau ymgyrchydd gloi giatiau gorsaf Western Wood gan rwystro lorïau rhag mynd i mewn ac allan.
Fe wnaethon nhw hefyd glymu baner fawr ar simnai yno, yn dweud “Ynni Glan: Jôc Fudur”.
Roedd yr amgylcheddwyr yno am tuag awr, cyn i’r heddlu gael eu galw. Dywedodd llefarydd ar ran y safle nad oedd y gwaith yn yr orsaf wedi ei amharu.
Caniatâd cynllunio
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi caniatáu i ail safle gael ei ddatblygu ym Mhort Talbot, a allai gynhyrchu digon o drydan i bweru hanner miliwn o dai.
Yn ôl yr asiantaeth, mi fyddai’r safle yn cynhyrchu rhwng 50% a 80% yn llai o nwyon tŷ gwydr na gorsafoedd sy’n llosgi nwy neu lo.
Ond yn ôl un o’r protestwyr, Rob Goodsell, 33 oed, byddai angen ardal hanner maint Cymru i dyfu coed yn barhaol i gynnal gorsaf o’r maint yna.
Mae coedwigoedd yn “allweddol” yn y modd y maen nhw’n amsugno carbon dioxide, ac yn amddiffyn yr atmosffer, meddai.
Y peth gorau i’w wneud yw gadael y carbon “wedi ei gloi mewn coed”, ac mae “hynna’n golygu rhoi’r gorau i’w llosgi”.
Amodau caeth
Mae’r ymgyrchwyr yn ofni na fydd datblygwyr yr orsaf ym Mhort Talbot – y cwmni Prenergy – yn gallu cadw at amodau amgylcheddol caeth sydd wedi cael eu gosod gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Pan gafodd y cynllun ei dderbyn ym mis Hydref, dywedodd Jeremy Bailey, llefarydd mudiad Preswylwyr Port Talbot yn Erbyn Gorsafoedd Egni, nad oedd y datblygwyr eu hunain yn credu bod modd cadw at yr amodau.
“Yr hyn rydyn ni’n ofni,” meddai, “yw y bydd yr orsaf ynni yn cael ei hadeiladu, na fydden nhw’n cadw at y canllawiau llym, ac na fydd Asiantaeth yr Amgylchedd yn cadw llygad arnyn nhw.
“Unwaith y bydd wedi cael ei adeiladu ac y bydd yn gweithio, mae’n anodd credu y bydd yn cael ei chau i lawr os oes gormod o lygredd.
“Mae hynna’n golygu y bydd iechyd pobol Port Talbot yn cael ei niweidio. Rydyn ni’n dal o’r farn y dylai’r drwydded yma fod wedi cael ei gwrthod.”